Climb Snowdon logo

Pam #ClimbSnowdon

Taith Yr Wyddfa - Pam Ni?

Yn syml...

  • Oherwydd rydych chi, eich grŵp, eich profiad a'ch mwynhad yn bwysig i ni
  • Mae gan Kate a Ross dros 25 mlynedd o brofiad gyda'i gilydd o arwain teithiau cerdded ar fynyddoedd yn y DU
  • Mae gennym brofiad heb ei ail o weithio gydag ystod eang o gleientiaid a grwpiau ar Yr Wyddfa
  • Rydym yn arwain teithiau cerdded dros yr haf a'r gaeaf — drwy gydol y flwyddyn
  • Mae gennym yswiriant proffesiynol lawn ar gyfer y gweithgareddau mynydd a ddarparwn
  • Ein blaenoriaeth fwyaf yw diogelwch, addysg a mwynhau amgylchedd mynyddig yr Wyddfa
  • Rydym yn datblygu cyfleoedd priodol i gefnogi eraill, waeth beth fo'u hoedran, eu gallu a'u profiad
  • Blwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym yn cyfrannu £1 fesul cerddwr Climb Snowdon i Gymdeithas Eryri
  • Mae gennym benwisg cofrodd Climb Snowdon gwych y gellir ei wisgo mewn sawl ffordd ar gael i chi!

Rydym bellach wedi gweithio gyda miloedd o bobl — o bob cefndir — sy'n awyddus i fwynhau cerdded ar Yr Wyddfa.

Mae ein profiad a'n brwdfrydedd dros helpu pobl i fwynhau diwrnodau hapus a diogel yn y mynyddoedd yn allweddol i'r hyn rydym yn ei wneud, fel y mae dyfnder ein profiad o weithio gyda llawer iawn o grwpiau cleientiaid, ym mhob math o dywydd, am nifer o flynyddoedd.

Mae ein henw da lleol yn rhagorol ac mae gennym gysylltiadau rhagorol â busnesau a sefydliadau lleol, gan gynnwys:

Rydym yn gweithio'n agos gyda Snowdonia Taxi i gynnig trosglwyddiadau o amgylch Yr Wyddfa i grwpiau ac unigolion. Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol drwy ffonio 01286 872447 os oes angen cymorth arnoch ar gyfer unrhyw deithiau ychwanegol yn ystod eich arhosiad yn Eryri. Gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn am RAW Adventures wrth archebu eich taith.

#NiYwClimbSnowdon ac rydym yn byw, gweithio a chwarae dan gysgod y mynydd ysblennydd hwn bob dydd.

“Y profiad mwyaf anhygoel! Ni allwn ddiolch digon i chi am eich cymorth, arweiniad a chefnogaeth wrth drefnu ein taith ddringo ac ar y diwrnod ei hun! I rywun nad oedd erioed wedi rhoi cynnig ar her mor gorfforol, fe wnaethoch chi dawelu fy meddwl a’m helpu i gyflawni un o'r pethau mwyaf anhygoel rydw i erioed wedi'i wneud!”
~ Gemma Brook

Darllenwch ragor o adolygiadau cleientiaid i weld pam mae cymaint o bobl yn ein dewis ni. Darllenwch ein Datganiad Cyfranogiad.


Ein Cyfrifoldebau

Mae Climb Snowdon yn gefnogwyr balch o Rhodd Eryri – menter newydd i alluogi busnesau lleol ac ymwelwyr i Eryri gyfrannu tuag at brosiectau cymunedol a chadwraeth a fydd yn helpu i warchod a diogelu’r Wyddfa am genedlaethau i ddod.

Darganfyddwch ragor am y prosiect i weld sut y gallwch ein helpu ni i helpu'r Wyddfa, ei hamgylchedd a'i chymunedau unigryw.

Rydym eisoes wedi ymrwymo i gyfrannu £1 am bob archeb Climb Snowdon i Gymdeithas Eryri dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi cael ei ddefnyddio i helpu ariannu diwrnodau cynnal a chadw llwybrau gwirfoddol a chasglu sbwriel. Rydym wedi gwirfoddoli ar lawer ohonynt yn bersonol hefyd! Mae'n dda rhoi rhywbeth yn ôl i'r mynydd sy'n rhoi cymaint i ni.

  • Ein nod yw gwella eich diogelwch trwy gynnig cyngor, dringo gyda thywysydd, gwybodaeth am lwybrau a thywydd, trafod amseriadau a logisteg a chynllunio cyffredinol
  • Rydym yn ychwanegu gwerth at eich diwrnod drwy gynnig gwybodaeth am y mynydd, y blodau a'r anifeiliaid, rheolaeth y mynydd a'i hanes unigryw
  • Rydym yn hyrwyddo ac yn addysgu eraill am ystyriaethau amgylcheddol ar y mynydd ac yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'n holl gyfranogwyr a thu hwnt
  • Rydym yn cadw at ganllawiau arfer da wrth gynllunio teithiau cerdded mwy ac yn cysylltu â’r rhai angenrheidiol er mwyn gwneud hynny, gan gynnwys trigolion a sefydliadau lleol, Parc Cenedlaethol Eryri a thirfeddianwyr lle bo angen
  • Rydym yn gweithio gyda grwpiau ar gymhareb Arweinydd o 1:10 fel eich bod yn dod yn wybodus ac yn derbyn gofal da
  • Rydym yn darparu Rhestr Offer fanwl iawn a chod disgownt ar gyfer prynu o Cotswold Outdoor (gan gynnwys Runners Need a Snow+Rock)
  • Rydym yn cynnig cyngor ar atebion cynaliadwy ar gyfer parcio, llety a bwyta/yfed yn yr ardal er mwyn cefnogi busnesau lleol
  • Rydym yn cefnogi ac yn trefnu digwyddiadau casglu sbwriel a glanhau cadwriaethol ar y mynydd yn rheolaidd, gan gynnwys yr Her y 3 Chopa Go Iawn yn flynyddol
  • Rydym yn anfon Nodiadau Dringo'r Wyddfa eglur atoch i'ch paratoi'n dda ar gyfer eich diwrnod
  • Rydym yn defnyddio Arweinwyr Mynydd lleol a gwybodus, yr ydym yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, sy'n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
  • Os mai hwn yw eich mynydd cyntaf, rydym am i chi fwynhau eich diwrnod gymaint fel eich bod yn cynllunio mwy o anturiaethau mynydd!

Diwrnodau Climb Snowdon 2022

Archebwch Nawr

O £39 y person

 
Climb Snowdon - Availability scale image
 

Nid oes angen lleiafswm nifer er mwyn i'r digwyddiadau hyn fynd rhagddynt, maent oll yn sicr o gael eu cynnal. Bydd gan bob dyddiad 10 lle ar gael gyda'r posibilrwydd o'i gynyddu i 16 ar benwythnosau prysur. Cysylltwch os nad oes digon o leoedd ar y dyddiad sydd dan sylw gennych.

* Mae’r rhain yn cael eu diweddaru’n wythnosol felly efallai na fyddant yn fanwl gywir pan fyddwch yn archebu. Bydd union nifer y lleoedd sy'n weddill yn cael eu harddangos ar y ffurflen archebu cyn i chi dalu.

Ydych chi'n chwilio am ddigwyddiad pwrpasol


#ClimbSnowdon 2023

Climb Snowdon - Full Availability image

1 Ebr 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

7 Ebr 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

9 Ebr 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

15 Ebr 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

10 Mai 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

20 Mai 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

28 Mai 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

3 Meh 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

10 Meh 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

14 Meh 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

17 Meh 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

8 Gor 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

15 Gor 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

23 Gor 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

5 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

11 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

19 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

25 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

27 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

6 Med 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

16 Med 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

30 Med 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

7 Hyd 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

15 Hyd 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

28 Hyd 2023

Archebwch Nawr

Os yw'r dyddiad a fynnwch yn llawn, cysylltwch â ni oherwydd efallai y gallwn gynnig mwy o leoedd os oes digon o ddiddordeb.


Cyfres yr Wyddfa 2023

Rydym wedi llunio cyfres o dri dyddiad agored ar gyfer 2023 sy’n archwilio gwahanol ochrau a gwahanol lwybrau'r Wyddfa. Mae’r digwyddiadau hyn yr un pris â’n Diwrnodau Agored eraill, ac mae croeso i chi archebu’r tri neu ddewis un. Os bydd galw mawr byddwn naill ai'n cynnig mwy o leoedd neu'n ychwanegu mwy o ddyddiadau.

Climb Snowdon - Good Availability image

#2
25 Meh 2023

Llwybr Watkin
Y Grib Ddeheuol
Archebwch Nawr

Mae'r holl lwybrau hyn yn gylchol felly byddwn yn cwrdd â chi ac yn eich gollwng yn yr un lle. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei anfon 4 wythnos ac 1 wythnos cyn eich digwyddiad. Ewch i'n hadran Cwestiynau Cyffredin i ddarllen am y llwybr rydyn ni'n ei gymryd fel arfer ar ein Diwrnodau Agored rheolaidd.

Pwy Ydyn Ni

Mae Taith yr Wyddfa (Climb Snowdon) yn rhan o RAW Adventures, a reolir gan Ross a Kate Worthington.

Climb Snowdon - RAW Adventures

Rhyngom, mae gennym nifer o gymwysterau cerdded Hyfforddiant Mynydd a gydnabyddir yn genedlaethol: Arweinydd Mynydd, Arweinydd Mynydd Gaeaf, Hyfforddwr Dringo Creigiau ac Arweinydd Mynydd Rhyngwladol.

Rydym yn aelodau ymroddedig a gweithgar o’r Gymdeithas Hyfforddiant Mynydd, gyda mynediad at gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus amrywiol.

Rydym hefyd yn aelodau gwirfoddol o Dîm Achub Mynydd Llanberis, sefydliad Achub Mynydd elusennol yng Nghymru a Lloegr sy’n ymateb i ddigwyddiadau a rhai mewn angen ar yr Wyddfa a’r mynyddoedd cyfagos.

Climb Snowdon (Taith yr Wyddfa) yw’r porth ar y we ar gyfer y gwasanaethau rydym yn eu darparu’n benodol ar gyfer grwpiau sydd eisiau cerdded i fyny'r Wyddfa ac mae’n bodoli’n benodol er mwyn darparu gwasanaeth o safon uchel i’ch helpu chi a’ch grŵp Taith yr Wyddfa trwy gydol y flwyddyn.

Rydym yn ffynnu ar ddatblygu cyfleoedd i weithio gydag eraill yn yr awyr agored, waeth beth fo'ch oedran a'ch profiad.

Gydag angerdd am y gwaith yn y diwydiant cyffrous hwn, mae diogelwch, her, proffesiynoldeb a mwynhad yn bwysig iawn i ni.

Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad arwain rhyngom a'r brwdfrydedd sy'n cyd-fynd â hynny.

Byddwn yn gofalu cymaint amdanoch chi a'ch cleientiaid ag y byddech chi.

Climb Snowdon - Kate and Ross Worthington
Kate Worthington

O oedran cynnar iawn, mae Kate wedi bod yn anturio, heicio a sgramblo ym mynyddoedd y DU – gan ddatblygu gwybodaeth fanwl am ein Parciau Cenedlaethol hardd a’n mannau gwyllt. Gyda'r cymwysterau Arweinydd Mynydd ac Arweinydd Mynydd Gaeaf, mae Kate wedi canolbwyntio ar ddod yn arweinydd profiadol a hyderus ac yn drefnydd digwyddiadau. Mae Kate bellach yn gweithio tuag at gymhwyster Arweinydd Mynydd Rhyngwladol.

Gan weithio gyda grwpiau o bob maint – gan gynnwys cleientiaid corfforaethol, digwyddiadau codi arian ar gyfer elusennau a grwpiau alldaith ieuenctid, mae Kate yn mwynhau’r her o gwrdd ag unigolion newydd a’u helpu i gael mynediad i’r awyr agored yn ddiogel...ac mae gwenu, cefnogaeth a dysgu yn bendant ar y rhestr offer!

Ers symud i ogledd Cymru, mae Kate wedi mynd â’i chariad at redeg yn uwch i’r mynyddoedd ac mae’n cystadlu’n rheolaidd mewn rasys mynydd lleol, yn ogystal â rhai ymhellach i ffwrdd yn Ardal y Llynnoedd, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ross Worthington

Yn anturiwr ers yn blentyn, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, treuliodd Ross amser yn gwersylla a merlota yn y DU ac Alpau Ffrainc yn datblygu talent unigryw ar gyfer gosod pebyll ar unrhyw dir. Mae gan Ross gefndir cryf ym maes arwain ieuenctid, yn dilyn ei ymwneud â’r Corfflu Hyfforddiant Awyr (Air Training Corps) a Gwobr Dug Caeredin. Yna parhaodd fel Hyfforddwr Hyfforddiant Antur ATC gyda grwpiau Alldaith Gwobr Dug Caeredin.

Gyda chymwysterau Arweinydd Mynydd, Hyfforddwr Dringo Creigiau a bellach yn Arweinydd Mynydd Rhyngwladol cymwys, mae’n gyfforddus gyda phob lefel gallu a maint grŵp ac mae’n mwynhau dysgu sgiliau newydd i eraill, ar yr Wyddfa a thu hwnt.

Gyda phrofiad o alldeithiau o Beriw, Borneo, Tanzania, Tsieina, Gwlad Groeg a Sbaen i Nepal ac Alaska, blaenoriaethau Ross yw trefniadaeth a diogelwch – gydag ambell jôc wael hefyd!

Climb Snowdon - Mountain Training Association (MTA) logo
Climb Snowdon - British Association of International Mountain Leaders (BAIML) logo
Climb Snowdon - Snowdonia Giving / Rhodd Eryri logo