Taith Yr Wyddfa logo

Rhaglen Partner Elusennol

Mae RAW Adventures yn gwmni profiadol sy’n darparu gwasanaeth ar gyfer digwyddiadau elusennol heriol, gan gynnig profiadau pwerus ar y mynyddoedd a gwneud i'r rhai sy’n codi arian deimlo'n fyw yn yr awyr agored. Rydyn ni’n ystyried am yr effaith y mae eich elusen yn ei chael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Dyna pam rydyn ni wedi sicrhau nad oes unrhyw risg ariannol i elusennau fod yn rhan o’n Rhaglen Partner Elusennol a rhoddir ystyriaeth i’r elw o fuddsoddi, ymgysylltu â chefnogwyr a photensial codi arian.

Taith Yr Wyddfa - Rhaglen Partners

Ein gwerth i chi

Dim Risg Ariannol

Mae ein moeseg yn syml: cynnig didwylledd a thryloywder ym mhopeth a wnawn. Heb unrhyw gost na risg i elusennau, y gost isaf yn y diwydiant i gyfranogwyr a model cynaliadwy i ni, gall pawb deimlo'n ddiogel wrth ddewis dringo’r Wyddfa gyda Climb Snowdon.

Partner gyda Gweithwyr Mynydd Proffesiynol

Gan eich bod wrth droed yr Wyddfa ac yng nghanol y gymuned yn un o'r mynyddoedd mwyaf poblogaidd ar y blaned, byddwch yn teithio yng nghwmni gweithwyr mynydd proffesiynol a phrofiadol sydd â chymwysterau Hyfforddiant Mynydd a gydnabyddir yn genedlaethol.

Cynnig Profiadau Dilys

Rydyn ni'n byw, gweithio a chwarae dan gysgod y mynydd anhygoel hwn bob dydd ac mae gennym brofiad heb ei ail o arwain grwpiau ar yr Wyddfa. Rydyn ni wrth ein bodd yn ymgysylltu, cynghori, addysgu ac ysbrydoli, ac ar ôl treulio'r diwrnod yn ein cwmni, rydyn ni'n hyderus mai dim ond dechrau eich her codi arian fydd hyn.

Caru Yr Wyddfa!

Ein nod yw mwynhau'r Wyddfa yn ddiogel ac yn gynaliadwy, gan gadw'r rhai sy’n codi arian yn ddiogel a chadw’r mynydd yn ddiogel. Rydyn ni’n gyffrous ynglŷn â’n prosiect Diogelu Dyfodol yr Wyddfa ac yn falch bod ein staff hefyd yn aelodau o'r tîm Achub Mynydd, yn Wardeiniaid Gwirfoddol yr Wyddfa ac yn aelodau o'r Gymdeithas Hyfforddi Mynydd.

Taith Yr Wyddfa - British Heart Foundation
Taith Yr Wyddfa - Dementia UK
Taith Yr Wyddfa - Isaac Nash Trust

Ymunwch â'n Rhaglen

Byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda'n gilydd i godi mwy o arian i'ch elusen. Nid oes unrhyw ymrwymiad ariannol i elusennau ond yn hytrach, mae’r ymrwymiad yn ymwneud â'n perthynas waith, a’n nod ar y cyd fydd cynyddu eich potensial i godi arian trwy roi profiad i bobl o'r hyn sydd gan yr Wyddfa i'w gynnig.

Gyda dros 20 o ddyddiadau i'w cynnig i'ch codwyr arian trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n darparu cymorth i recriwtio cyfranogwyr, deunyddiau marchnata parod, proses gofrestru hwylus wedi’i hintegreiddio â JustGiving a chyfleoedd i ddyfnhau'ch perthynas â'r rhai sy’n codi arian.

Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gydag elusennau a thrafod eich digwyddiad codi arian nesaf, boed hynny trwy ein Rhaglen Partner Elusennol Climb Snowdon neu i ystyried posibiliadau digwyddiad pwrpasol. O'r cysylltiad cyntaf un (dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb), yr holl ffordd i gopa'r mynydd, rydyn ni yma i helpu.

Os yw'ch elusen yn chwilio am ddigwyddiad codi arian heb unrhyw risg ariannol, ffoniwch 01286 870 870 neu anfonwch e-bost atom a byddem wrth ein bodd yn trafod sut y gallai ein rhaglen partner elusennol weithio i chi a'ch cefnogwyr.

Taith Yr Wyddfa - #LaidBackLumps