Climb Snowdon logo

Beth yr ydym yn ei Wneud

Taith Yr Wyddfa - Beth yr ydym yn ei Wneud

Ross a Kate #ClimbSnowdon. Haf, gaeaf, boreau, nosweithiau, diwrnodau prysur, diwrnodau tawel a chan gerdded lawer o wahanol llwybrau i'r copa.

Rydym yn Arweinwyr Mynydd hynod brofiadol, gyda chyfoeth o brofiad yn cynnal diwrnodau cerdded personol a phroffesiynol - ledled y DU, a thu hwnt. Ond mae ein hangerdd dros fyw a gweithio o dan gysgod yr Wyddfa yn sail i bopeth a wnawn.

Yn y pen draw, ein nod yw helpu eraill i gael mynediad at y mynydd hwn, yr un mwyaf mawreddog ohonynt hwy i gyd. Os gallwn ni helpu i ddatblygu ymdeimlad o ryfeddod a chwilfrydedd am Yr Wyddfa, y mynydd, a'ch bod chi eisiau dod yn ôl eto ar ôl mynd adref, i sefyll ar gopa arall yn Eryri, yna rydyn ni wedi cyflawni'r nod hwn. Mae taith bersonol i chi yn dechrau...

Mae ein cyfrifoldeb am gynyddu eich diogelwch, eich cefnogi i wneud penderfyniadau ystyriol a'ch helpu chi i ddatblygu hyder mewn amgylchedd anghyfarwydd yn hollbwysig bob amser. Rydyn ni hefyd wrth ein bodd yn ymgysylltu, cynghori, addysgu ac yn ysbrydoli.

Dyma beth rydyn ni'n ei wneud...

Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi feddwl am ddringo mynydd, gadewch inni eich helpu chi i gynllunio fel bod eich profiad cyntaf yn un positif! Byddwn yn:

  • Gwrando ar eich gofynion ac yn rhoi’r cyngor gorau posibl i chi
  • Awgrymu opsiynau llwybr ac amcanion priodol i chi a'ch grŵp
  • Darparu cefnogaeth ffôn ac e-bost wrth gynllunio'ch diwrnod
  • Darparu Nodiadau Taith a Rhestr Offer gynhwysfawr
  • Gweithio gydag Arweinwyr Mynydd lleol profiadol, cymwys ac yswiriedig
  • Ychwanegu gwerth at eich profiad gyda'n cyfoeth o wybodaeth leol a chysylltiadau cymunedol
  • Cynghori chi ar awgrymiadau gweithgareddau a llety ychwanegol i gyfoethogi'ch amser yn Eryri
  • Awgrymu ffyrdd y gallwch chi leihau effaith amgylcheddol a chefnogi diddordebau cadwraeth lleol
Taith Yr Wyddfa - Teithiau Cerdded yr Haf

Teithiau Cerdded yr Haf

1-4 o bobl:
£180 am y diwrnod

5 neu fwy o bobl:
O £35 y pen

Taith Yr Wyddfa - Teithiau Cerdded y Gaeaf

Teithiau Cerdded y Gaeaf

1-4 o bobl:
£210 am y diwrnod

5 neu fwy o bobl:
O £42 y pen

Diwrnod Arferol

0845 Cyfarfod y tu allan i Orsaf Reilffordd Mynydd yr Wyddfa
ar gyfer briffio’r grŵp, gwirio cit a chyflwyno’r Arweinwyr
0900 Opsiwn i deithio i fan cychwyn gwahanol
0945 Yr amser gadael hwyraf o'r man cychwyn a ddewiswyd
1300 Cyrraedd copa'r Wyddfa
1330 Gadael copa'r Wyddfa trwy Llwybr Llanberis
1700 Cyrraedd yn ôl i mewn i Lanberis / meysydd parcio

Mae'r gost yn cynnwys:

  • Cefnogaeth a chyngor cyn y digwyddiad
  • Nodiadau taith a rhestr offer
  • 1 Arweinydd Mynydd i bob 10 person
  • Offer diogelwch grŵp a phecyn Cymorth Cyntaf
  • Tystysgrif Climb Snowdon
  • Lluniau wedi'u lanlwytho i facebook.com/ClimbSnowdon

Nid yw'r gost yn cynnwys:

  • Pecyn ac offer personol
  • Llety
  • Lluniaeth (oni chytunir)
  • Trafnidiaeth gyhoeddus
  • Taliadau parcio
  • Pecyn gaeaf - esgidiau uchel, cramponau, bwyell, helmed (os yw'n berthnasol)

Diwrnodau Climb Snowdon 2022

Archebwch Nawr

O £39 y person

 
Climb Snowdon - Availability scale image
 

Nid oes angen lleiafswm nifer er mwyn i'r digwyddiadau hyn fynd rhagddynt, maent oll yn sicr o gael eu cynnal. Bydd gan bob dyddiad 10 lle ar gael gyda'r posibilrwydd o'i gynyddu i 16 ar benwythnosau prysur. Cysylltwch os nad oes digon o leoedd ar y dyddiad sydd dan sylw gennych.

* Mae’r rhain yn cael eu diweddaru’n wythnosol felly efallai na fyddant yn fanwl gywir pan fyddwch yn archebu. Bydd union nifer y lleoedd sy'n weddill yn cael eu harddangos ar y ffurflen archebu cyn i chi dalu.

Ydych chi'n chwilio am ddigwyddiad pwrpasol


#ClimbSnowdon 2023

Climb Snowdon - Full Availability image

1 Ebr 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

7 Ebr 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

9 Ebr 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

15 Ebr 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

10 Mai 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

20 Mai 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

28 Mai 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

3 Meh 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

10 Meh 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

14 Meh 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

17 Meh 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Limited Availability image

8 Gor 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

15 Gor 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

23 Gor 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

5 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

11 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

19 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

25 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

27 Aws 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

6 Med 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

16 Med 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

30 Med 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

7 Hyd 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

15 Hyd 2023

Archebwch Nawr
Climb Snowdon - Good Availability image

28 Hyd 2023

Archebwch Nawr

Os yw'r dyddiad a fynnwch yn llawn, cysylltwch â ni oherwydd efallai y gallwn gynnig mwy o leoedd os oes digon o ddiddordeb.


Cyfres yr Wyddfa 2023

Rydym wedi llunio cyfres o dri dyddiad agored ar gyfer 2023 sy’n archwilio gwahanol ochrau a gwahanol lwybrau'r Wyddfa. Mae’r digwyddiadau hyn yr un pris â’n Diwrnodau Agored eraill, ac mae croeso i chi archebu’r tri neu ddewis un. Os bydd galw mawr byddwn naill ai'n cynnig mwy o leoedd neu'n ychwanegu mwy o ddyddiadau.

Climb Snowdon - Good Availability image

#2
25 Meh 2023

Llwybr Watkin
Y Grib Ddeheuol
Archebwch Nawr

Mae'r holl lwybrau hyn yn gylchol felly byddwn yn cwrdd â chi ac yn eich gollwng yn yr un lle. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei anfon 4 wythnos ac 1 wythnos cyn eich digwyddiad. Ewch i'n hadran Cwestiynau Cyffredin i ddarllen am y llwybr rydyn ni'n ei gymryd fel arfer ar ein Diwrnodau Agored rheolaidd.

Ffitrwydd

Taith Yr Wyddfa - Beth yr ydym yn ei Wneud

Rydyn ni yma i gefnogi'ch diwrnod Climb Snowdon a'ch helpu chi i gyrraedd eich nod yn ddiogel a chan fwynhau. Ond er mwyn ein helpu ni i'ch helpu chi, cofiwch baratoi cyn dod a chyrraedd yn barod am ddiwrnod llawn o gerdded yn y mynyddoedd.

Nid yw'r Wyddfa yn cynnig mannau cerdded hamddenol ar dir llyfn, tonnog neu lwybrau fel sydd mewn parciau gwledig. Mae copa’r Wyddfa 1085 metr uwchben lefel y môr ac mae ganddi rai rhannau a llwybrau serth a chreigiog, mae'n amgylchedd mynyddig cyffrous! Dyna pam mae cymaint yn ei garu felly!

Mae’r Wyddfa yn brydferth ac yn ddramatig. Bydd yna adegau pan fydd angen i chi ddefnyddio'ch dwylo i sadio eich hun ar rai llwybrau, ac mae ambell ran o Llwybr Llanberis (y llwybr twristiaid) yn hynod o serth hyd yn oed.

Mae'r mynydd yn greigiog dan draed a bydd yn herio'ch cluniau, crothau coesau, traed, fferau, cefn, anadlu a’ch ymennydd ar brydiau! Ond, dyna pam rydych chi yma, ynte?!

Cofiwch hyn wrth baratoi ar gyfer eich taith gerdded a meddyliwch am y canlynol:

  • Dilynwch y Rhestr Offer a dewch â PHOB eitem a restrir gyda chi
  • Dylech bob amser ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych - dyna pam rydym ni yma!
  • Ceisiwch ymarfer cerdded ar dir mwy serth i fyny AC i lawr - dewch o hyd i'ch bryn lleol neu ewch i ardaloedd eraill ar benwythnosau
  • Defnyddiwch beiriant rhedeg neu stepio ar oleddf serth neu wrthiant uwch
  • Cynlluniwch deithiau cerdded hirach ar y penwythnos - gyda'ch bag ar eich cefn
  • Ewch yn bellach ar dir mwy gwastad - i adeiladu stamina
  • Ceisiwch ymarfer gyda pholion pwrpasol (o leiaf unwaith) cyn eich diwrnod gyda Climb Snowdon
  • Dylech bob amser ddefnyddio’r grisiau ac ewch i fyny ac i lawr gymaint ag y gallwch!
  • Daliwch ati i adeiladu ar eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd (nofio, cerdded, rhedeg, beicio) yn ogystal â gwella cyhyrau’r stumog i gynnal eich cefn
  • Canolbwyntiwch ar ddatblygu cryfder a ffyrfder y cyhyrau yn eich cluniau, eich pen ôl a’ch cefn i helpu i gynnal eich pengliniau ac osgoi anaf...a dylech YMESTYN y cyhyrau hyn yn rheolaidd
  • GOFYNNWCH AM GYNGOR gan weithiwr proffesiynol cymwys cyn cychwyn ar drefn ymarfer newydd
Taith Yr Wyddfa - Beth yr ydym yn ei Wneud