Am Yr Wyddfa
Hanes a'r Amgylchedd
Mae Gogledd Cymru yn wlad o fynyddoedd uchel, creigiau garw, afonydd byrlymus, llynnoedd clir, coetiroedd hynafol ac arfordir amrywiol.
O fewn hyn, hen deyrnas Gwynedd y mae un o’r trysorau pennaf, sef Eryri.
Mae gan Barc Cenedlaethol Eryri 15 o fynyddoedd sy’n mesur dros 3000 troedfedd ac mae’r Wyddfa, sy’n golygu tomen gladdu, yn bennaeth arnynt i gyd.
Ffurfiwyd y mynydd yn wreiddiol dros 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl trwy wrthdrawiad platiau tectonig, ac yr oedd, ar y pryd, dan ddŵr. Gwyddom hyn o’r ffosilau o ddarnau o gregyn a ddarganfuwyd ar y copa. Yr adeg hon bu llawer o echdoriadau folcanig yn yr ardal, gan osod haenau o ludw a chraig, sydd wedi dod yn greigiau'r Wyddfa heddiw.
Yna ffurfiwyd Yr Wyddfa i'r siâp a adnabyddwn heddiw trwy gyfres o gyfnodau enfawr o blygu ac adeiladu mynyddoedd, lle'r oedd y graig yn agored i wres a grym enfawr ac yn llythrennol wedi cael ei 'gwasgu' i fyny. Cafwyd cyfnodau hefyd o dywydd oer iawn ac, o ganlyniad, oesoedd iâ, gyda’r un diwethaf dim ond 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae rhewlifoedd yr oes yr iâ ddiweddaraf hon wedi naddu’r copaon pigog a’r dyffrynnoedd a welwn yn awr.
Mae mynydda wedi bod yn weithgaredd gweddol ddiweddar, yn boblogaidd o Oes Fictoria, ond mae’r Wyddfa wedi bod wrth wraidd ffordd o fyw llawer o bobl ers yr Oes Efydd. Mae yna hefyd lawer o olion mwyngloddiau copr a llechi Fictoraidd ar y mynydd, yn ogystal ag aneddiadau a ffermydd hŷn. Mae cymaint o hanes dynol a naturiol yn amlwg ar y mynydd hwn, rydych chi'n llythrennol yn cerdded yn ôl mewn amser...
Agorwyd Rheilffordd yr Wyddfa am y tro cyntaf ym 1896 ond adeiladwyd y llochesi cerrig cyntaf ar y copa ym 1820. Bellach, mae canolfan ymwelwyr unigryw ar y copa, Hafod Eyri a gafodd ei hail-ddylunio a’i hagor yn 2009.
Yn ogystal â darparu cyfoeth o ddiddordeb i wyddonwyr a botanegwyr Fictoraidd, mae’r mynydd wedi bod yn faes hyfforddi ers tro ar gyfer alldeithiau i’r Alpau a Mynyddoedd Himalaia.
Gwesty Pen y Gwryd wrth droed y mynydd oedd y ganolfan ar gyfer alldaith Everest Hillary a Tenzing ym 1953, tra'n hyfforddi ar gyfer eu hymgais llwyddiannus i’r copa.
Ar y mynydd fe welwch ddefaid ffermwyr lleol yn pori'n uchel ar y clogwyni a'r llethrau, yn ogystal â chymuned o eifr gwyllt, os ydynt o gwmpas.
Mae digonedd o fathau o weiriau, mwsoglau, grug, rhedyn, blodau alpaidd a gwythiennau chwarts gwyn pefriog. Weithiau mae'r gwythiennau a'r creigiau cwarts hyn yn edrych fel eira! Chwiliwch am gigfrain mawr du sy’n plymio ger y copa yn ogystal â gwylanod sydd wedi mudo i ganol y tir yn chwilio am fwyd gan gerddwyr.