Llwybrau i'r Copa
#ClimbSnowdon
Eisiau dringo'r Wyddfa ond ddim yn siŵr pa lwybr cerdded i fynd arno? P'un ai a ydych chi’n cerdded gyda ni, neu'n cynllunio diwrnod allan i chi'ch hun, defnyddiwch ein canllaw i helpu i ddod o hyd i'r llwybr a fydd yn addas i'ch profiad a'ch disgwyliadau.
Mae’r Wyddfa wedi ei lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Edrychwch ar ein dyddiadau Open Climb Snowdon i weld pryd y gallem fod allan gyda grŵp, gan ddefnyddio llwybr penodol. Neu os ydych chi awydd eich taith gerdded dywysedig bwrpasol eich hun ar ddyddiad sy'n addas i chi, cysylltwch â ni i alluogi hyn i ddigwydd.
Llwybr Llanberis
- Pellter: 9 milltir / 14.5km
- Esgyniad: 975m
- Amser: 5.5 – 7 awr
- Man cychwyn: Llanberis
- Cyf Grid: SH 582 598
Llwybr Cwellyn
- Pellter: 8 milltir / 13km
- Esgyniad: 936m
- Amser: 6 awr
- Man cychwyn: Maes parcio Llyn Cwellyn
- Cyf Grid: SH 564 511
Llwybr y Mwynwyr
- Pellter: 8 milltir / 13km
- Esgyniad: 723m
- Amser: 6 awr
- Man cychwyn: Maes parcio Pen y Pass
- Cyf Grid: SH 647 577
Llwybr Rhyd Ddu
- Pellter: 8.5 milltir / 14km
- Esgyniad: 895m
- Amser: 6 awr
- Man cychwyn: Maes parcio Rhyd Ddu
- Cyf Grid: SH 571 526
Llwybr Pyg
- Pellter: 7 milltir / 11km
- Esgyniad: 723m
- Amser: 6 awr
- Man cychwyn: Maes parcio Pen y Pass
- Cyf Grid: SH 647 577
Llwybr Watkin
- Pellter: 8 milltir / 13km
- Esgyniad: 1015m
- Amser: 7 awr
- Man cychwyn: Maes parcio Pont Bethania
- Cyf Grid: SH 627 507
Crib Goch a Phedol yr Wyddfa
Mae'r grib fawreddog hon yn daith gerdded a sgrialu glasurol i'r Wyddfa ei hun ac mae mynediad iddi o Fwlch y Moch, ar hyd Llwybr Pyg.
Mae rhai’n camgymryd Crib Goch am yr Wyddfa ei hun ac yn cael eu herio ar y grib serth a chreigiog heb fwriadu gwneud hynny!
Mae'r rhan fwyaf o'n cleientiaid Climb Snowdon yn defnyddio llwybrau eraill i ddringo’r Wyddfa, ond weithiau mae pobl yn gofyn inni eu tywys ar hyd y llwybr hwn, ac rydym yn hapus iawn i wneud hynny gan ystyried rhai amodau.
Rydym yn gweithredu mewn cymhareb o 1:4 ar Crib Goch a byddwn yn tywys cerddwyr profiadol ar hyd y llwybr hwn, sy'n abl ac yn hyderus ar eu traed ac yn hapus ag uchder a bod mewn lle digysgod. Yn ddelfrydol byddant wedi sgramblo o'r blaen (efallai ar Tryfan, hefyd yn Eryri, neu Striding Edge yn Ardal y Llynnoedd, er enghraifft).
Bydd asesiad bob amser yn cael ei wneud a byddwn yn rhannu disgwyliadau pan fyddwn yn cwrdd â grwpiau, ac mae'n syniad da sicrhau bod diwrnod ychwanegol ar gael ar gyfer archwilio tir tebyg cyn y daith i fyny Crib Goch. Hefyd, mae'n rhaid i'r tywydd fod yn braf ar gyfer taith bleserus a mwy diogel ar hyd y grib: bydd gwyntoedd tawel, craig sych a gwelededd da yn gwneud y daith yn ddiwrnod allan dymunol, yn hytrach na brwydr yn erbyn tywydd mawr mewn amgylchedd agored.
Rydym yn hapus i drafod opsiynau cerdded sy'n cynnwys Crib Goch ac Y Lliwedd ar eich cyfer a’ch helpu i gynllunio anturiaethau...