Climb Snowdon logo

Cwestiynau Cyffredin

Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin sy'n ymwneud â'r gweithgareddau rydym yn eu darparu. Nid yw'r rhestr yn hollgynhwysfawr o bell ffordd a gobeithiwn ein bod wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Os nad yw eich cwestiwn ar y rhestr, cysylltwch â ni trwy ffonio 01286 870870 i drafod eich ymholiad.

Diwrnodau Taith yr Wyddfa

Mae diwrnodau agored Taith yr Wyddfa (Climb Snowdon) wedi eu creu ar gyfer unigolion neu grwpiau bychain o 4 neu lai i ymuno â’i gilydd am brofiad dan arweiniad, ar yr Wyddfa heb y gost ychwanegol o archebu digwyddiad pwrpasol. Dewiswch eich dyddiad ar ein ffurflen archebu a gwnewch ffrindiau newydd ar ddiwrnod agored Taith yr Wyddfa.

Fel arall, cysylltwch â ni ynghylch archebu eich digwyddiad pwrpasol ar ddyddiad o'ch dewis.

Os ydych chi’n gobeithio dringo’r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr yn gyfforddus (a gallu cerdded y diwrnod wedyn!), yna bydd angen lefel rhesymol o ffitrwydd cyffredinol arnoch chi. Bydd tir serth ac anwastad gydag ardaloedd agored, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud rhywfaint o ymchwil ar y llwybr rydych chi'n bwriadu ei gymryd fel eich bod chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl. Rydyn ni'n tywys pobl o bob oed i fyny'r Wyddfa, ond oni bai eich bod chi'n ymarfer yn rheolaidd, efallai y bydd eich cyhyrau'n teimlo ychydig yn boenus dros y ddau ddiwrnod yn dilyn eich digwyddiad.

Byddwch hefyd yn gweld anadlu yn fwy heriol ar y rhannau mwy serth, os nad ydych chi wedi arfer ymarfer yn aerobig. Rydyn ni'n bwriadu esgyn ar gyflymder cyfforddus bob amser, ond rydyn ni'n disgwyl i gerddwyr gyrraedd yn gorfforol barod ac yn barod ar gyfer diwrnod hir o gerdded.

Pan fyddwch yn archebu, byddwn yn gofyn i chi am unrhyw gyflyrau meddygol ac mae'n bwysig iawn eich bod yn ateb yn onest ac yn fanwl. Os oes gennym unrhyw bryderon am eich gwybodaeth feddygol yna efallai y byddwn yn cysylltu â chi yn uniongyrchol i glirio unrhyw ansicrwydd ac i sicrhau y gallwn baratoi ein Harweinwyr Mynydd i gynnig unrhyw ofal arbennig ychwanegol i chi pe bai angen.

Yn y mis cyn eich diwrnod Taith yr Wyddfa, rydym yn argymell eich bod yn anelu at gwblhau o leiaf ychydig o deithiau cerdded 5 milltir, yn ddelfrydol dros dir cymysg ac mewn tywydd amrywiol hefyd. Os gallwch chi gwblhau un daith gerdded diwrnod hirach, gyda sach teithio, dros dir bryniog – bydd hyn yn rhoi hyder i chi fod gennych chi’r stamina i gwblhau eich taith gerdded ar yr Wyddfa. Bydd cwblhau sawl taith gerdded yn eich helpu i ddod i adnabod eich offer a’i ‘dorri i mewn’ hefyd.

Lawrlwythwch a darllenwch Cyfri'r dyddiau hyd Daith yr Wyddfa i’ch helpu i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr.

Yn fyr, ydyn, ond mae hyn yn dibynnu ar ffitrwydd a phrofiad y plentyn. Fel canllaw rydym yn argymell plant dros 10 oed yn unig, er mwyn cadw i fyny â’r cyfranogwyr eraill ar ddiwrnodau Taith yr Wyddfa.

Gellir cario babanod mewn pecyn cefn diogel ar gyfer cludo babanod, ond cofiwch fod wyneb y llwybr yn anwastad a gall y tywydd newid yn sydyn. Bydd angen lapio eich babi yn gynnes, gan na fydd yn symud a gall oeri’n gyflym.

Rydym hefyd yn cynnal diwrnodau Taith yr Wyddfa ar gyfer plant yn bennaf, trwy ysgolion a sefydliadau ieuenctid eraill felly cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn. Byddwn hefyd yn cynnal mwy o ddiwrnodau Taith yr Wyddfa sy’n ‘gyfeillgar i deuluoedd’ yn ystod gwyliau’r haf – lle rydym yn disgwyl i deuluoedd ddod gyda phlant llai efallai.

Dim ond os bydd Rheilffordd yr Wyddfa yn rhedeg y bydd canolfan ymwelwyr a chaffi'r copa ar agor. Mae Rheilffordd yr Wyddfa fel arfer yn rhedeg bob dydd o fis Ebrill hyd fis Hydref (Gwyliau’r Pasg tan Hanner Tymor Hydref yn gyffredinol) oni bai bod cyflymder y gwynt yn rhy uchel/y trac wedi’i orchuddio ag eira a bod y trên yn methu cyrraedd y copa.

Gallwch wirio adroddiadau gwasanaeth ar wefan Rheilffordd yr Wyddfa. Os yw caffi’r copa ar agor, gall fod yn hynod o brysur yn ystod canol y dydd, gyda chiwiau hir am fwyd/diod a thoiledau. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynd â digon o fwyd a diod gyda chi i fod yn hunangynhaliol, a pheidio â dibynnu ar y caffi ar gyfer eich cinio neu ddiodydd. Edrychwch ar y caffi fel bonws!

Yn ôl gwefan Rheilffordd yr Wyddfa, “Dim ond ar sail 'wrth gefn' y mae tocynnau sengl ‘i lawr y mynydd’ ar gael yng ngorsaf cyrchfan y dydd (Copa neu’r Clogwyn) a dylai cerddwyr fod yn ymwybodol nad oes sicrwydd y bydd trenau gyda seddau ar gael ar y mynydd ar unrhyw adeg benodol. Felly, os ydych yn cerdded i fyny, dylech fod yn barod i gerdded i lawr hefyd.”

Mewn cytundeb gyda Rheilffordd yr Wyddfa, rydym hefyd yn annog cerddwyr trwy nodi: os ydych am gyrraedd y copa ar droed, yna bydd angen i chi dderbyn y byddwch yn cerdded yn ôl i lawr hefyd. Mae ein diwrnodau Taith yr Wyddfa wedi'u trefnu ar gyfer cerddwyr sydd eisiau cerdded i fyny ac i lawr y mynydd.

Mae 6 phrif lwybr cerdded ar Yr Wyddfa – gaiff eu disgrifio ar Climb Snowdon – Teithiau i'r Copa. Ein nod bob amser yw defnyddio dau lwybr gwahanol ar ein diwrnodau Taith yr Wyddfa er mwyn galluogi cerddwyr i brofi golygfeydd amrywiol o’r ardal o gwmpas yr Wyddfa.

Ar gyfer grwpiau llai a rhai grwpiau pwrpasol, byddwn yn cymryd y bws cyhoeddus o’n man cyfarfod yn Llanberis i fyny i Ben Y Pass i ymuno â Llwybr PYG. Fodd bynnag, ar gyfer y rhan fwyaf o’n grwpiau, rydym yn defnyddio’r llwybr llai adnabyddus, sydd newydd ei wella, o bentref Llanberis trwy Fwlch Maesgwm i ymuno â hanner uchaf Llwybr Cwellyn. Ein nod bob amser yw dychwelyd ar hyd Llwybr Llanberis a fydd yn dod â chi yn ôl i'r pentref lle gwnaethoch ddechrau'r diwrnod.

Mae siawns bob amser y gall y dewis o lwybrau newid ar y diwrnod, yn dibynnu ar y tywydd a barn eich Arweinydd Mynydd, a fydd bob amser yn rhoi diogelwch y grŵp fel prif flaenoriaeth.

Os ydych yn archebu lle ar gyfer digwyddiad pwrpasol, bydd naill ai RAW Adventures neu drefnydd eich digwyddiad yn cysylltu â chi 4 wythnos ac 1 wythnos cyn eich digwyddiad gan gadarnhau’r dewis o lwybr.

Ar ddiwrnodau Taith yr Wyddfa, rydym yn defnyddio Llwybr Pyg a Llwybr Llanberis yn bennaf. Pe byddech eisiau rhoi cynnig ar lwybr gwahanol yna cysylltwch â ni a gallwn roi arweiniad i chi ar archebu diwrnod preifat pwrpasol gyda'ch Arweinydd Mynydd eich hun a all fynd â chi ar hyd llwybr gwahanol neu hyd yn oed i fyny mynydd arall.

Na, bydd ein Harweinydd Mynydd cymwys yn cymryd y cyfrifoldeb hwn. Fodd bynnag, os hoffech ddysgu, gofynnwch i'n harweinwyr cyfeillgar. Rydym hefyd yn cynnal Cyrsiau Sgiliau Mynydd sydd wedi'u hanelu at bobl sydd eisiau dysgu hanfodion darllen mapiau yn y mynyddoedd. Gweld mwy o fanylion »

Gall diwrnod arferol i fyny’r Wyddfa gymryd hyd at 7.5 awr – caniatewch ddiwrnod llawn ar gyfer eich gweithgaredd. Gall ffitrwydd grŵp, profiad a thywydd effeithio ar amseriadau. Disgwyliwch gerdded am o leiaf 3 awr i fyny, weithiau mwy. Ac nid yw bob amser yn gyflymach ar y ffordd i lawr - mae hyn hefyd yn dibynnu ar sut mae'r grŵp yn ymdopi â rhannau mwy serth wrth ddod i lawr.

Os yw caffi canolfan ymwelwyr y copa ar agor a’ch bod yn dewis mynd i mewn, efallai y byddwch hefyd yn treulio amser gwerthfawr yn ciwio! Rydyn ni'n caniatáu amser da ar gyfer egwyliau wrth gerdded i fyny ac i lawr, yn ogystal ag amser ar y copa. Cofiwch yr amser sydd ei angen i dynnu lluniau a mwynhau'r golygfeydd hefyd! Nid ‘gorymdaith gyflym’ i fyny ac i lawr yw ein dull gweithredu. Rydyn ni'n cymryd ein hamser i wneud y gorau o'r diwrnod.

Mae teithiau cerdded Taith yr Wyddfa fel arfer yn defnyddio Llwybr Pyg o Ben y Pass. Ond, mae maes parcio Pen y Pass fel arfer yn llawn erbyn 0700 neu hyd yn oed yn gynt yn ystod y tymor brig. Am y rheswm hwn, rydym yn cyfarfod ein grwpiau yn Llanberis ger gorsaf Rheilffordd yr Wyddfa ac yna naill ai dal y bws lleol 0905 i Ben y Pass, neu rydym yn archebu tacsi ar gyfer grwpiau mwy a dyddiau prysurach. Chi fydd yn talu cost y bws/tacsi i'r gyrrwr. Byddwn yn cadarnhau costau disgwyliedig yn ein manylion digwyddiad i chi.

Mae digon o leoedd parcio talu ac arddangos ar gael ym mhentref Llanberis: gyferbyn â gorsaf Rheilffordd yr Wyddfa, gallwch ddod o hyd i ‘Parcio ar gyfer yr Wyddfa’. Mae gan Amgueddfa Lechi Cymru a’r Mynydd Gwefru feysydd parcio cyhoeddus mawr. Mae maes parcio bach y tu ôl i Reilffordd yr Wyddfa hefyd. Parciwch yn gyfrifol, gan ddefnyddio meysydd parcio cyhoeddus ac ystyried trigolion lleol.

Trên
Yn anffodus unig orsafoedd trên Llanberis yw Rheilffordd y Llyn a Rheilffordd yr Wyddfa! Fodd bynnag, mae’r gorsafoedd trên agosaf ym Mangor - Gwynedd (BNG) a Betws-y-coed (BYC) a gallwch ddod oddi yno i Lanberis ar fws (gweler isod) neu dacsi (rydym yn argymell Snowdonia Taxi). Mae’r ddwy orsaf wedi’u lleoli ar brif linellau trên y mae modd eu cyrraedd o bob rhan o’r DU, gan newid yng Nghaer neu Crewe fel arfer.

Car
Mae’r M56/A55 yn dod â chi i ogledd Cymru ar hyd ffyrdd deuol ac mae’r M54/A5 yn mynd â chi drwy fynyddoedd a dyffrynoedd hardd a welir yn aml mewn rhaglenni teledu a ffilmiau. Os ydych yn gyrru i fyny arfordir Cymru o dde Cymru, yna dilynwch yr A470 ac yna'r A487 i Gaernarfon.

Bws
Mae gwasanaethau National Express yn rhedeg i Landudno, Conwy, Bangor, a Chaergybi o Lundain, Caer a Manceinion am gyn lleied â £10. Mae Bysus Arriva Cymru yn gweithredu gwasanaethau i Gaernarfon, Bangor a Phorthmadog, gweler isod am deithio ymlaen i Lanberis.

Bysiau lleol i Lanberis
85 o Fangor (tua bob 2 awr a bob 3 awr ar y Sul)
88 o Gaernarfon (tua bob awr a bob 2 awr ar y Sul)
S1 Sherpa’r Wyddfa o Ben y Pass ar benwythnosau a Gwyliau Banc (tua bob hanner awr)
S2 o Fetws y Coed (tua bob awr)
S97 o Borthmadog, newid i S4 ym Meddgelert a newid eto i’r S1 ym Mhen Y Pass

Gall amserlenni bysiau newid. Gallwch wirio holl fanylion y bysiau ar wefan Cyngor Gwynedd..

Beic
Os ydych chi'n mwynhau beicio beth am ddefnyddio pŵer eich pedalau i ddod i Fynyddoedd ac Arfordir hardd Eryri, trwy ddilyn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. . Mae llwybrau di-draffig a llwybrau gostegu traffig yn creu mynediad hawdd o’r ardal gyfagos ac ymhellach i ffwrdd.

Awyren
Mae teithio o feysydd awyr rhyngwladol Manceinion, Lerpwl a Birmingham yn cymryd llai na dwy awr. Mae llwybr awyr newydd rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Maes Awyr Ynys Môn yn cymryd ychydig llai nag awr.

Ar y môr
Mae Irish Ferries a Stena Line yn cynnal gwasanaethau rheolaidd a chyflym i Gaergybi o Ddulyn a Dun Laoghaire. Ar gyfer de Eryri, mae gwasanaethau fferi i Abergwaun a Doc Penfro yn ddewis arall defnyddiol.

Gallwch lawrlwytho Rhestr Offer lawn ar ein gwefan. Mae tîm swyddfa Climb Snowdon yn hynod brofiadol a chymwys, ac mae hanner ohonom yn wirfoddolwyr ar Dîm Achub Mynydd Llanberis, felly rydym wrth ein bodd yn siarad am fynyddoedd! Efallai bod llawer o offer ar y rhestr ond fe fyddwch chi'n gwisgo'r rhan fwyaf ohono a bydd eich bwyd a'ch dŵr yn ysgafnhau wrth i'r diwrnod fynd rhagddo.

Un o'r rhesymau efallai na fydd llawer o bobl yn mwynhau eu diwrnod (neu fethu cyrraedd y copa) yw diffyg offer a argymhellir. Nid oes angen gwario ffortiwn ar eitemau newydd, holwch ffrindiau a theulu i fenthyg dillad neu rhowch gynnig ar eich siopau elusen lleol os oes angen. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr nad ydych yn gwisgo jîns nac unrhyw eitemau cotwm. Pan fydd y deunyddiau hyn yn gwlychu, maen nhw'n aros yn wlyb ac yn gadael dŵr yn agos at eich croen. A gallwch chi oeri trwy ddargludiad 25 gwaith yn gyflymach na phe bai'ch dillad yn sych.

Oeri a gwlychu, peidio â bwyta digon a pheidio â gwneud dim am y materion hyn, yw prif achos hypothermia cynnar. Gallwn brofi'r amodau hyn ar ddiwrnod ym mis Awst, er enghraifft! Bydd ein Harweinydd Mynydd profiadol bob amser yn rheoli lles a diogelwch ein grwpiau Taith yr Wyddfa.

Rydym yn argymell gwisgo haenau o ffabrigau teneuach, synthetig neu wlân, gyda'r gallu i roi fflîs cynnes a siaced drostyn nhw. Does dim pwynt pacio crysau-t neu haen waelod ‘ychwanegol’ i’w gwisgo os byddwch chi’n oer, oherwydd ni fyddwch chi eisiau dadwisgo er mwyn gwisgo haenau eraill, os ydych chi’n teimlo’n oer. Meddyliwch am allu gwisgo haenau DROS yr hyn rydych chi eisoes yn ei wisgo er mwyn cadw'n gynnes.

Nid yw ffyn cerdded yn hanfodol ond maen nhw'n syniad da i unrhyw un sy'n dioddef o unrhyw anystwythder neu boen yn y cefn, y pengliniau neu'r cluniau. Gallant eich helpu i deimlo'n fwy diogel ar dir anwastad, yn enwedig wrth ddod i lawr.

Argymhellir ffyn y gellir eu byrhau'n hawdd fel y gallwch eu plygu a'u strapio i'ch sach teithio ar gyfer unrhyw rannau lle y byddai'n well gennych beidio â'u defnyddio. Ar gyfer defnyddwyr newydd, rydym yn awgrymu defnyddio un ffon ar y ffordd i fyny a dwy ar y ffordd i lawr, yn dibynnu ar eich llwybr.

Er bod ein bod yn ffafrio ac yn cynghori gwisgo esgidiau cerdded, nid ydynt yn gwbl hanfodol. Yn ddelfrydol bydd gennych esgidiau cryf a chyfforddus sy'n cynnal eich fferau ac, os yw'n bosibl, yn dal dŵr er mwyn cadw'n gyfforddus, yn gynnes ac i helpu i osgoi pothelli. Gallai’r rhain fod yn esgidiau ymarfer (trainers) ar gyfer cerdded gyda gwadnau garw, sydd ychydig yn llai trwm nag esgidiau cerdded lledr llawn.

Os penderfynwch brynu esgidiau newydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gwisgo ymhell cyn eich diwrnod mawr ar y mynydd. Bydd hyn yn helpu i osgoi pothelli ar y diwrnod Taith yr Wyddfa ac yn gwella hyder a chyfforddusrwydd.

Os ydych chi’n bryderus, yna gallwch chi bob amser roi plastr ar fannau a allai fod yn dueddol o rwbio ar fore’ch taith gerdded, a mynd â phlasteri mawr gyda chi, rhag ofn y bydd unrhyw ‘fannau problemus’ yn datblygu yn ystod eich taith gerdded.

Dylai eich sach teithio fod o leiaf 25 litr o faint gyda dau strap ysgwydd ac yn ddelfrydol strap brest a/neu ganol hefyd. Peidiwch â dod â bagiau bach neu fagiau siopa gyda chi, maen nhw'n anghyfforddus i'w gwisgo am gyfnod hir.

Er mwyn gwneud eich eiddo yn wrth-ddŵr, rydym yn argymell eich bod yn leinio eich sach deithio gyda bag bin neu roi eich eitemau mewn bagiau siopa plastig ar wahân. Mae bagiau ‘Zip-lock’ y gellir eu hailddefnyddio yn dda ar gyfer eitemau llai neu ffonau symudol. Peidiwch â hepgor eitemau ar eich Rhestr Offer am na allwch eu ffitio yn eich bag; dewch o hyd i fag mwy!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta brecwast da gyda charbohydradau a phrotein i'ch llenwi ar gyfer y bore, e.e. uwd gyda menyn cnau mwnci (peanut butter) a banana. Ewch ag o leiaf 1.5 litr o ddŵr gyda chi mewn potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio a phaciwch amrywiaeth o fwydydd – rhai sawrus a melys a fydd yn eich cynnal yn ystod y dydd. Ceisiwch ddewis carbohydradau cymhleth a bwydydd cyflawn, yn hytrach na bwydydd rhy felys a siocled. Bydd bwydydd fel torth frag, ffrwythau a chnau cymysg, caws a ham/salami, bara ceirch, bariau ffrwythau amrwd, siocled tywyll, ‘wraps’ gyda llenwad, porc peis bach neu roliau selsig yn para'n dda ar y mynydd ac yn eich cynnal am sawl awr. Mae pizza oer yn ffefryn arbennig gan rai o’n staff!

Cofiwch beidio byth â gadael unrhyw bapurau lapio neu groen ffrwythau ar y mynydd ac ewch â’r holl sbwriel yn ôl gyda chi.

Wrth archebu lle ar ddiwrnod Taith yr Wyddfa rydych chi’n cymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored lle nad yw toiledau cyhoeddus yn ‘arferol’. Mae toiledau ym Mhen y Pass lle rydym fel arfer yn cychwyn ein teithiau cerdded, ac os yw canolfan ymwelwyr y copa ar agor, yna mae toiledau ar gael yno (ciw efallai!). Fodd bynnag, cofiwch na ellir dibynnu ar ganolfan ymwelwyr a chaffi’r copa i fod yn agored drwy'r amser.

Os ydych yn dioddef o unrhyw gyflyrau meddygol sy'n golygu y bydd angen mynediad i doiled arnoch yn amlach, yna cysylltwch â ni gan ein bod yn gobeithio gwneud ein digwyddiadau mor hygyrch i gynifer o bobl ag y gallwn.

Mae angen rhywfaint o breifatrwydd, rhywfaint o synnwyr digrifwch ac ychydig o hancesi papur toiled / bag sbwriel, os yw’n berthnasol, ar gyfer mynd i’r toiled (i bi-pi) ‘yn yr awyr agored’. Mae hyn er mwyn i chi allu rhoi hances bapur eich toiled mewn bag sbwriel a’i roi yn ôl yn eich sach teithio, yn hytrach na gadael hancesi papur toiled neu weips babi ar y mynydd – peidiwch â gwneud hynny!

Rhowch wybod i ni ar gyfer pwy rydych chi'n codi arian a gallwn eich helpu i ledaenu'r neges ac efallai hyd yn oed recriwtio rhai cyd-godwyr arian i gerdded gyda chi. Bydd y rhan fwyaf o elusennau yn cynnig pecyn codi arian i chi gyda chrysau-t a ffurflenni noddi a fydd yn rhoi arweiniad i chi. Byddwch yn dal i dalu eich cost Taith yr Wyddfa i ni, a chi fydd yn gyfrifol am godi arian i'ch elusen, ar ben ein talu i ymuno â'n taith gerdded. Gweler ein hadran elusennau bwrpasol.

Fel busnes, mae gennym yswiriant atebolrwydd digonol ar gyfer y gweithgareddau rydym yn eu cynnig. Pan fyddwch wedi archebu lle ar eich diwrnod Taith yr Wyddfa, rydym yn argymell eich bod yn cael yswiriant teithio a fydd yn yswirio unrhyw achosion o ganslo neu ddamweiniau na ellir eu hosgoi, yn enwedig os byddwch yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu'n bwriadu archebu llety. Chwiliwch am ‘Canslo Taith’ ar eich polisi yswiriant.

Os yw cŵn yn ymddwyn yn dda, yn cael eu cadw ar dennyn bob amser a’ch bod yn glanhau ar eu holau; yna mae croeso iddynt ymuno â ni fel arfer. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu dod â'ch ci a gallwn wirio gyda gweddill y grŵp.

Mae da byw yn cael eu cadw mewn caeau a mynyddoedd yn Eryri a’r cyffiniau. Yn ogystal, mae llawer o dyllau a chlogwyni cudd a all fod yn hynod beryglus i gi sy’n mynnu rhedeg ar ôl anifeiliaid eraill (cwningod, adar, defaid, cŵn eraill ac ati). Cadwch eich ci ar dennyn am y rheswm hwn, yn enwedig ar lwybrau prysur yr Wyddfa. Cofiwch ddod â bagiau baw ci hefyd i lanhau ar ôl eich ci (a mynd â nhw oddi ar y mynydd gyda chi yn ddiogel – ac nid eu gadael wrth ochr llwybr).

Dylai pawb sy'n ymuno ag un o'n diwrnodau Taith yr Wyddfa fod yn barod am dywydd amrywiol ar eu taith gerdded. Mae hyn yn cynnwys gwres eithafol yn ogystal â gwynt, glaw, cymylau isel a hyd yn oed cawodydd eira weithiau! Fel darparwr gweithgareddau mynydd profiadol, os ydym yn ystyried y tywydd sy’n dod i mewn yn beryglus i’n grwpiau cerdded a/neu staff yr Arweinwyr Mynydd, yna efallai y byddwn yn gwneud trefniadau eraill o ran cynllunio llwybrau. Gallai hyn gynnwys cerdded i fyny cyn belled ag y gallwn cyn troi’n ôl, gan ddilyn llwybr amgen, h.y. trawstaith yn hytrach nag esgyniad, efallai y byddwn hyd yn oed yn mynd â grŵp i fyny mynydd cyfagos llai gyda golygfeydd o’r Wyddfa.

Ar yr achlysuron hynod annhebygol lle bydd yn rhaid i ni ganslo taith gerdded yn gyfan gwbl, yna mae'r holl wybodaeth i'w chael ar ein Telerau ac Amodau. Prin yw’r achlysuron hyn – felly rydym yn hapus i gerdded mewn glaw a chymylau isel, cyn belled â bod gan bawb yr offer angenrheidiol ar gyfer aros yn sych, yn gynnes ac yn hapus.

Gallwch! Ac rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau Taith yr Wyddfa pwrpasol ar yr adegau hyn.

Ar gyfer diwrnodau Taith yr Wyddfa, rydyn ni'n tueddu i gerdded yn ystod oriau golau dydd, er ein bod yn cynnal teithiau gwawr a machlud rheolaidd. Cysylltwch â ni'n uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth ac i wirio a oes digwyddiadau pwrpasol ar gael. Bydd yr amseru bob amser yn amrywio gyda'r digwyddiadau hyn yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a byddwch yn ymwybodol, er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i osgoi'r cymylau, ni allwn warantu golygfeydd syfrdanol o'r wawr/machlud ar gyfer tynnu lluniau.

Cadwch mewn cysylltiad er mwyn derbyn newyddion am unrhyw ddigwyddiadau Taith yr Wyddfa ar doriad haul neu fachlud haul.

Er ein bod yn galw ein hunain yn Climb Snowdon, nid ydym mewn gwirionedd yn dringo gyda rhaffau a harneisiau. Gallwn ddarparu diwrnodau blasu dringo creigiau a diwrnodau gweithgareddau felly cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth.

Dyddiau o gerdded yn unig yw diwrnodau Climb Snowdon, felly peidiwch â digalonni ar sail ein henw! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ‘rhedeg’, gallwn drefnu diwrnodau rhedeg dan arweiniad ar yr Wyddfa neu fynyddoedd eraill. Mae ‘taith gerdded’ ar Grib Goch yn cynnwys rhai technegau o sgramblo gyda ‘dwylo ar y graig’, ac rydym yn cynnal teithiau cerdded ar Grib Goch fel digwyddiadau pwrpasol, fel digwyddiadau tywys neu fel rhan o’r Welsh 3000s Challenge.

Copa naturiol yr Wyddfa yw’r llwyfandir y mae’r grisiau a’r garnedd wedi’u hadeiladu arno. Nid oes angen i chi ymuno â'r ciw er mwyn cael ‘hunlun copa’ dilys a dathlu eich llwyddiant. Yr unig reswm i ymuno â'r ciw yw cael y llun gyda'r piler triongli, sef y marciwr carreg ar y brig.

Yn aml, ar ddiwrnodau prysuraf y flwyddyn, gall y ciw hwn gymryd dros awr i gyrraedd y piler triongli, sydd weithiau’n golygu nad oes digon o amser i aros.