
Diogelwch ar y Mynydd
#BeAdventureSmart




Cyngor ar Ddiogelwch
Rydym i gyd eisiau mwynhau'r Wyddfa (a mynyddoedd eraill) yn ddiogel gan barchu pobl eraill ac amgylchedd y mynyddoedd.
Trwy ddilyn y camau syml hyn, gallwch hefyd sicrhau eich bod yn cynllunio anturiaethau mynydd yn y dyfodol yn gyfrifol:
- Gwnewch gynllun cyn i chi adael eich cartref: Sut fyddwch chi'n teithio i'r Wyddfa? Ble i barcio os ydych chi'n gyrru? Pa lwybr sy’n addas i'w ddilyn ar gyfer eich grŵp? A fydd yn rhaid i chi drefnu llety dros nos? Edrychwch ar ein Llwybrau i’r Copa i gychwyn
- Cynlluniwch lwybr addas: Pa mor hir fydd y daith gerdded yn cymryd? A fydd yn addas i bawb sy'n cymryd rhan? Oes gennych chi ddigon o brofiad i ddilyn y llwybr hwn? Sut bydd y tywydd a ragwelir yn effeithio arnoch chi? Faint o'r gloch y bydd angen i chi gychwyn a dychwelyd?
- Edrychwch ar ragolygon tywydd mynydd addas ar gyfer eich ardal ddewisol — er enghraifft Mountain Weather Information Service - Snowdonia National Park
- Darganfyddwch pa cyfarpar ac offer sydd eu hangen arnoch a phaciwch yn ôl y rhagolygon tywydd yn uwch i fyny'r mynydd (bydd hi YN oerach i fyny yno!)
- Ydych chi'n gwybod sut i ddarllen map neu ddefnyddio cwmpawd? Sut fyddwch chi'n gwybod ble rydych chi'n mynd ar y mynydd? Cynyddwch eich gwybodaeth a'ch sgiliau os oes angen. Siaradwch â busnesau lleol ac ati cyn cychwyn, mae llawer o wybodaeth y gallwch ei chael gan eraill yn lleol - edrychwch ar ein fersiwn syml o Map a Chanllaw yr Wyddfa
- Ewch â digon o fwyd a byrbrydau, diodydd sudd, dŵr, diodydd poeth mewn fflasg (tywydd oerach) i'ch cynnal drwy'r dydd. Cofiwch eli haul/het haul os yw'n heulog ac yn boeth
- Dywedwch wrth rywun ble rydych chi'n mynd: rhowch gynllun llwybr a manylion cyswllt iddynt
- Mae cael ffôn symudol (wedi’i wefru) yn ffordd dda o ddiweddaru eraill yn unol â hynny (ond peidiwch â dibynnu ar gael derbyniad cyson mewn ardaloedd mynyddig)
- Peidiwch â bod ofn newid cynlluniau mewn tywydd gwael neu droi yn ôl os yw'n mynd yn ormod - weithiau mae 'cario ymlaen' yn cynyddu'r risg
- Byddwch yn ymwybodol o'ch grŵp cyfan a sut mae pawb yn ymdopi â'r trip — ydy pawb yn hapus ac yn dal i sgwrsio?!
- Peidiwch â dibynnu ar Reilffordd yr Wyddfa i fod mewn gwasanaeth ac i allu mynd â chi i lawr y mynydd os ydych wedi blino. Siaradwch â nhw'n uniongyrchol am archebu tocynnau Dwyffordd neu Unffordd i Fyny - ond ni allwch 'gerdded i fyny a dal y trên i lawr'. NID yw Canolfan Ymwelwyr a gorsaf y copa ar agor drwy gydol y flwyddyn, nac mewn tywydd gwael
- Edrychwch ar Adventure Smart Wales i gael rhagor o awgrymiadau a syniadau am gynllunio diwrnodau difyr o weithgareddau yng Nghymru