Llwybrau i'r Copa
Llwybr Cwellyn
Credir mai Llwybr Cwellyn yw'r cynharaf o'r chwe phrif lwybr i'r copa. Cafodd y llwybr ei enwi yn Saesneg ar ôl tywysydd mynydd o’r enw John Morton a alwodd ei hun yn ‘Snowdon Ranger’. Ar ôl esgyniad igam-ogam serth i gychwyn, mae’r llwybr yn dringo’n raddol i fyny cyn uno â Llwybr Llanberis ym Mwlch Glas, ac yna ymlaen i’r copa.
- Pellter: 8 milltir / 13km
- Esgyniad: 936m
- Amser: 6 awr
- Man cychwyn: Llyn Cwellyn car park
- Cyf Grid: SH 564 511
- Maps:
- Arolwg Ordnans: OL17 / 114
- Harvey Maps: Gogledd Eryri
Pan fyddwch wedi parcio mewn lle addas (defnyddiwch y maes parcio ac osgowch barcio ar y briffordd ‘A’ brysur, gyflym) croeswch y ffordd ac i’r dde o fynedfa’r maes parcio fe welwch biler carreg gyda ‘Llwybr Cwellyn’ arno. Mae’n weddol amlwg, ond bydd angen i chi nadreddu o gwmpas a thros y traciau rheilffordd yn gyntaf, gan fynd i fyny’r allt tuag at ffermdy Llwyn Onn. Parchwch unrhyw arwyddion ‘eiddo preifat’ a chadwch at y llwybr.
Pan gyrhaeddwch ffermdy Llwyn Onn, fe welwch hen olwyn ddŵr ar dalcen y tŷ. Gyrrwyd yr olwyn gan ddŵr o gronfa fechan i falu ŷd a thorri eithin i fwydo ceffyl gwaith y fferm. Pan fyddwch wedi mynd drwy ddwy giât fferm, fe welwch eich hun ar lwybr cadarn sy’n dringo’n serth allan o’r dyffryn ar hyd nifer o ddarnau igam-ogam. Rydych chi'n dal i fod ar eiddo preifat yma ac mae'ch hawl tramwy yn cyd-fynd â'r llwybr ei hun, felly cadwch ato.
Wrth i chi ddringo, mae golygfeydd gwych i lawr tuag at Lyn Cwellyn a llethrau Mynydd Mawr sy’n codi'n serth o'i lannau. Ar ôl dringo cychwynnol serth o tua 25 munud, fe sylwch fod y tir yn gwastatáu. Mwynhewch y cerdded yma, gyda golygfeydd i fyny at gopa’r Wyddfa uwch eich pen ar ddiwrnod clir!
Gydol yr amser, cadwch ar y prif lwybr caregog sy’n arwain o’ch blaen – mae llwybrau eraill yn gadael ac yn ymuno â’r prif lwybr hwn o ddyffrynnoedd eraill ond mae eich taith yn cadw at y prif lwybr hwn – llwybr Cwellyn.
Edrychwch o’ch blaen ac fe welwch fwlch dwfn rhwng y bryn ar y chwith i chi, Moel Cynghorion a chodiad llwybr Cwellyn ar hyd ymyl Clogwyn Du'r Arddu, clogwyni serth iawn sy'n enwog am eu dringo ar ochr arall y grib. Enw’r bwlch hwn yw Bwlch Cwm Brwynog. Ar y dde i chi fe welwch lyn mynyddig o’r enw Llyn Ffynnon y Gwas yn ymestyn allan islaw’r llethrau uwch ei ben.
Cymerwch seibiant yma, cyn i chi ddechrau dringo'r darn igam-ogam serth. Os crwydrwch i fyny at Fwlch Cwm Brwynog ac edrych tua’r gogledd fe welwch Lwybr Llanberis yn mynd i lawr o Orsaf Clogwyn yr ochr arall i Gwm Brwynog.
Rydych chi bellach tua 1 awr 45 munud o’r copa – ond rydych ar fin gwneud y cynnydd uchder mwyaf ar eich taith... byddwch yn barod am esgyniad serth nawr. O Fwlch Cwm Brwynog, mae’r llwybr yn dringo’n serth iawn ac yn rhydd dan draed bron yr holl ffordd i’r copa, felly cymerwch ofal o hyn ymlaen. Mae yna rai clogfeini mwy i’w dringo i ddechrau, ond yna byddwch chi ar lwybr da, sy’n greigiog yn bennaf.
Ar ôl cerdded yn gyfochrog â Llyn Ffynnon y Gwas am ychydig, bydd y llwybr yn dechrau igam-ogamu yn serth i fyny’r ysgwydd uwchben Clogwyn Du’r Arddu. Wrth ddringo ysgwydd Clogwyn Du’r Arddu, fe welwch olygfa wych i’r de tuag at Foel Hebog yn codi allan o Goedwig Beddgelert. Dyma olygfeydd o'r Wyddfa nad yw pawb yn cael eu gweld, os ydynt yn dewis esgyn o ochr Pen y Pass i'r mynydd.
Uwchben Clogwyn Du’r Arddu mae’r ddringfa’n gwastatáu ychydig, dros laswellt byr ac nid yw wedi’i ddiffinio’n dda iawn felly cymerwch ofal ar y rhan hon, yn enwedig mewn tywydd niwlog neu aeafol.
Bydd y llwybr yn dechrau dringo eto’n fuan, ond yn fwy cadarn dan draed a dyma’r awgrym eich bod yn cyrraedd croesfan Rheilffordd yr Wyddfa. Mewn tywydd clir fe welwch y rheilffordd uwch eich pen, ac mewn cymylau efallai mai dim ond clywed y trên wnewch chi.
Mewn tywydd gwael iawn (gwyntog) efallai na fyddwch yn clywed y trên o gwbl – a gallai hyn olygu nad yw’n rhedeg y diwrnod hwnnw! Bydd y darn dringo olaf hwn yn cymryd tua 10 munud ac yna byddwch yn cyrraedd maen hir sy’n nodi man croesi Rheilffordd yr Wyddfa (cofiwch amdani ar eich ffordd i lawr – yn enwedig os yw’n niwlog, oherwydd gall fod yn anodd iawn dod o hyd i’r llwybr fel arall).
O’r maen hir, croeswch lein Rheilffordd yr Wyddfa a cherddwch yn syth ymlaen nes i chi gyrraedd maen hir arall sy’n nodi cyffordd llwybr Cwellyn a Llwybr Llanberis.
Rydych newydd groesi trac rheilffordd Rheilffordd yr Wyddfa sydd wedi bod yn cludo ymwelwyr i’r copa ers 1896 ar yr unig reilffordd rac a phiniwn cyhoeddus yn y DU.
Yn sydyn, rydych chi wedi cyrraedd Bwlch Glas, ardal wastad brysur iawn ar y grib i gopa’r Wyddfa, lle mae sawl llwybr yn ymuno.
Byddwch wedi bod yn cerdded am dros 2 awr 30 munud, yn ôl safon y rhan fwyaf o bobl. Dim ond 15 munud ar y mwyaf i gyrraedd y copa nawr...
Dilynwch y llwybr i’r dde ac ar ôl cerdded tua 50 metr fe ddowch at faen hir arall, llawer mwy, ym Mwlch Glas. Mae’r garreg hon yn nodi’r fan lle mae Llwybr Pyg a Llwybr y Mwynwyr yn ymuno â llwybrau Llanberis a Cwellyn.
O’r maen hir, cerddwch yn syth ymlaen gan ddefnyddio’r llwybr sydd wedi’i adeiladu’n dda sy’n cadw at ochr y trac rheilffordd.
Ar ddiwrnod clir, fe fydd golygfeydd godidog i’r de, tuag at Borthmadog, a’r gogledd-orllewin i gyfeiriad Caernarfon, Môr Iwerddon ac Ynys Môn.
Ar ddiwrnod prysur, weithiau mae angen ciwio yma i ddringo'r grisiau serth i'r copa ei hun. Ond mae’n rheidrwydd, felly mynnwch y cyfle i ymweld â chopa mynydd uchaf Cymru (sy’n uwch nag unrhyw fynydd yn Lloegr hefyd!)
Gwnewch yn siŵr bod gennych haenau ychwanegol i’w gwisgo mewn tywydd oerach/mwy gwyntog/gwlypach a chymerwch mwy o fwyd a dŵr.
Dim ond hanner ffordd ydych chi a bydd angen egni arnoch chi ar gyfer y disgyniad hefyd! I ddod i lawr yr un ffordd byddwch dilynwch eich camau yn ôl i Fwlch Glas, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich cyfeiriad gan y gall Bwlch Glas fod yn lle dryslyd ar ddiwrnod prysur neu mewn tywydd gwael gan fod llawer o lwybrau’n cydgyfarfod yn y fan hon.
Ym Mwlch Glas mae carreg fawr gyda ‘Llwybr Cwellyn’ arni ac mae hon yn sefyll uwchben y man lle’r oeddech yn croesi’r trac rheilffordd ar eich ffordd i fyny.