Llwybrau i'r Copa
Llwybr Llanberis
Llwybr Llanberis sy’n cynnig y llwybr mwyaf graddol, a’r hiraf, i gopa'r Wyddfa. Mae’n gadael pentref Llanberis ar hyd ffordd darmac serth, un o rannau mwyaf heriol y llwybr – dyna rybudd i chi! Peidiwch â gwthio’ch hun yn rhy galed i ddechrau.
- Pellter: 9 milltir / 14.5km
- Esgyniad: 975m
- Amser: 5.5 – 7 awr
- Man cychwyn: Llanberis
- Cyf Grid: SH 582 598
- Mapiau:
- Arolwg Ordnans: OL17 / 114
- Harvey Maps: Gogledd Eryri
Mae'r llwybr yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer teuluoedd, grwpiau a'r rhai sy'n newydd i gerdded gan nad yw'n achosi llawer o anawsterau technegol yn ystod yr haf. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr wedi'i adeiladu'n dda ac wedi'i gynnal a'i gadw i safon dda - gyda rhai darnau ychydig yn fwy serth po uchaf i fyny'r mynydd yr ewch.
Gwiriwch gyda ni os ydych yn bwriadu defnyddio’r llwybr hwn yn ystod y gaeaf, gan fod peryglon penodol i fod yn ymwybodol ohonynt yn yr eira.
Gan sefyll gyda’ch cefn at Orsaf Reilffordd yr Wyddfa yn Llanberis, trowch i’r dde a cherdded ar hyd darn byr o’r ffordd nes cyrraedd cylchfan fechan, y tu allan i westy Royal Victoria Hotel Snowdonia. Yma fe welwch arwyddbost gyda ‘Llwybr i’r Wyddfa’ arno – dyma’r ffordd at fan cychwyn Llwybr Llanberis.
Byddwch yn cerdded ar hyd stryd breswyl i ddechrau, a thuag at ei diwedd mae grid gwartheg – lle mae bwrdd gwybodaeth gan Barc Cenedlaethol Eryri yn nodi’r llwybr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrtais gyda thrigolion lleol wrth i chi gerdded heibio eu tai – naill ai drwy fonitro lefelau sŵn, peidio â gadael unrhyw sbwriel a chadw at y palmant.
Wrth y grid gwartheg, cymerwch amser i ddarllen y bwrdd dehongli am Lwybr Llanberis, sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am y llwybr, ei hanes a phwyntiau o ddiddordeb. Ac yna fe welwch y ffordd darmac serth o'ch blaen! Rhan fer ond serth yw hon – a fydd yn mynd â chi at ddechrau llwybr y mynydd ei hun.
Dim ond rhyw hanner milltir ydyw...ond peidiwch â gwthio'n rhy galed gan ei bod hi’n hawdd cerdded yn rhy gyflym ar y rhan hon a blino’n ddiangen. Byddwch yn mynd heibio Pen y Ceunant Isaf (sydd hefyd yn cael ei adnabod yn lleol fel Caffi’r Wyddfa) sy’n fan poblogaidd am hoe ar y ffordd i fyny.
Fel arfer mae gan Stefan, perchennog y caffi, yr adroddiad tywydd diweddaraf ar gyfer yr Wyddfa ar fwrdd y tu allan, ac mae toiledau y tu mewn ar gyfer cwsmeriaid. Mae’r caffi hwn yn lle gwych i alw ynddo, ar eich ffordd yn ôl i lawr – am de a bara brith, lemonêd cartref neu gwrw 1085 yr Wyddfa.
Ond, dydyn ni ddim yn aros yma ac mae’r llwybr tarmac yn parhau i godi nes i chi gyrraedd giât ar y chwith a charreg fawr gyda ‘Llwybr Llanberis’ arni ac arwydd pren yn pwyntio tuag at ‘Gopa’r Wyddfa’.
Er hyn, mae rhai pobl yn methu’r troad hwn i lwybr y mynydd gan barhau ar hyd y ffordd i Gwm Brwynog o’ch blaen. Mae llawer o bobl yn cymryd seibiant yma ar ôl yr esgyniad serth ar y ffordd - gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio mynd â'ch holl bethau gyda chi (nid yw'n anghyffredin dod o hyd i hetiau, menig, poteli plastig a sbwriel wedi’u gadael yma - yn anfwriadol hoffem feddwl).
Bydd 15 munud arall o gerdded ar ddarn ychydig yn greigiog o’r llwybr yn dod â chi i fyny at Giât Hebron a dyma fan gorffwys cyffredin arall, gan fod y llwybr yn lefelu ar ôl hyn – sydd i’w groesawu’n fawr!
O’r fan hon, ar ddiwrnodau clir, fe welwch yn glir tuag at gopa pyramidaidd yr Wyddfa, uwchben creigiau tywyll Clogwyn Du’r Arddu a Chlogwyn Coch. Isod mae Cwm Brwynog, lle gallwch weld olion cymuned anghyfannedd o hyd – adeiladau fferm, hen felin, capel segur a chorlannau.
O'r fan hon, rydych chi nawr ar lwybr da am tua 45 munud wrth iddo godi’n raddol tuag at Dŷ Hanner Ffordd, sydd bellach yn gaffi hamddenol sydd ar agor yn ystod y misoedd prysuraf. Byddwch yn croesi o dan drac Rheilffordd yr Wyddfa mewn un man ar y ffordd i Dŷ Hanner Ffordd, a cheir golygfeydd da o'r trac trenau pe bai gennych ddiddordeb mewn tynnu llun o gerbyd yn mynd heibio.
Adeiladwyd y trac rheilffordd rac a phiniwn hwn, o Lanberis i’r copa, mewn ychydig dros flwyddyn, a chafodd ei agor ym 1896.
Hanner milltir arall o Dŷ Hanner Ffordd ac mae Llwybr Llanberis yn mynd yn fwy serth wrth iddo esgyn rhan o’r enw ‘Allt Moses’ i fyny tuag at Orsaf Clogwyn, yn uchel ar y llethrau uwchlaw Bwlch Llanberis.
O Allt Moses, cewch olygfa drawiadol o glogwyni serth Clogwyn Coch a Chlogwyn Du’r Arddu – lle poblogaidd i ddringwyr ymgynnull ar ddiwrnodau hir o haf pan mae’r creigiau’n sych a chynnes! Byddwch hefyd yn gweld lle mae trac y trên yn croesi pennau’r clogwyni serth i'r dde ohonoch.
Mae'r ardal benodol hon, uwchben Clogwyn Coch, yn fan lle mae damweiniau'n digwydd yn aml yn ystod misoedd y gaeaf. Pan fo’r llethrau uwch yn llawn eira, byddai'n hawdd meddwl bod modd canfod eich ffordd trwy ddefnyddio’r llinell rheilffordd.
Ond, gall y fan lle mae'r rheilffordd yn croesi'r clogwyni islaw, ddod yn llethr amgrwm llithrig iawn a all achosi cryn drafferth i bobl os nad oes ganddynt yr adnoddau cywir i ddelio â thir dan eira (h.y. esgidiau/cramponau addas, bwyell iâ, a'r gallu i symud ar draws y tir yn hyderus a diogel).
Bydd yn cymryd tua 15-20 munud i gerdded Allt Moses ...cymerwch eich amser ar y darn serth hwn a byrhewch eich cam os yw'n teimlo'n anodd. Ar ddiwrnod clir, wrth gyrraedd Gorsaf Clogwyn (770m), fe welwch olygfa wych yn agor dros Fwlch Llanberis a draw am fynyddoedd y Glyderau a’r Carneddau i’r gogledd.
Gwyliwch rhag y llethrau serth oddi tanoch i’r gogledd-ddwyrain/dwyrain – sy’n arwain i lawr i Gwm Hetiau. Roedd gan drenau cyntaf 1896 gerbydau ag ochrau agored gyda dim ond llenni i amddiffyn y teithwyr rhag yr elfennau o'r tu allan...yn anochel byddai'r gwynt weithiau'n chwythu ambell i het i'r dyffryn islaw...
O’ch blaen chi nawr mae ‘ymdrech olaf’ Llwybr Llanberis. Paratowch ar gyfer un esgyniad heriol olaf ar ddarn byr, serth o'r llwybr wrth iddo ddringo hyd ochr Clogwyn Coch ac yn y pen draw i lwyfandir y copa.
Gall Allt Goch edrych yn frawychus o’r gwaelod, mae’n ddringfa fer, serth ar dir sydd ychydig yn fwy llac, ac wedi ei erydu fwy. Ond, gyda seibiannau aml pe baech eu hangen, camau byr a pheth penderfyniad - bydd yn cymryd 15 munud arall i oresgyn yr anhawster byr hwn.
O ben y darn serth hwn, mae’n 30 munud arall o gerdded mwy gwastad i’r copa, gyda golygfeydd yn dod i’r amlwg i’r de a’r gorllewin tuag at Borthmadog a thu hwnt.
Cyn cyrraedd y copa, byddwch yn cyrraedd Bwlch Glas, sy’n lle defnyddiol i gyfeiriadu eich hun. Gwiriwch pa lwybr y daethoch i fyny arno, gwnewch hynny’n weledol ac ar y map – er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwybod pa lwybr i'w ddilyn ar eich ffordd i lawr.
Gall Bwlch Glas fod yn lle prysur ar benwythnosau, gan fod pedwar llwybr yn ymuno yma (Cwellyn, Pyg, y llwybr o Grib y Ddysgl a Chrib Goch, a Llwybr Llanberis). 15 munud arall ar hyd rhan sydd ychydig yn fwy serth a chreigiog o lwybr da, a byddwch yn sefyll ar y copa. Rhyfeddol.
Copa’r Wyddfa
Mae copa'r Wyddfa yn lle unigryw, yn gyfuniad rhyfedd o ryngweithio dynol a rhyfeddod naturiol.
Mae tystiolaeth o ffosilau hynafol ychydig islaw ardal y copa – prawf bod yr ardal gyfan hon o dan y dŵr mewn môr lled-drofannol filiynau o flynyddoedd yn ôl!
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn llwyddo i ddringo Llwybr Llanberis o fewn 3 - 3.5 awr.
Os ydych chi’n cerdded yn ôl i Lanberis, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod o hyd i’r llwybr cywir o’r man lle mae'r holl lwybrau'n gyfarfod ym Mwlch Glas. O’r copa, bydd angen i chi deithio i’r gogledd-ddwyrain am tua 500m i gyrraedd Bwlch Glas ac yna dilyn cyfeiriad gogleddol i ymuno gyda Llwybr Llanberis.
Peidiwch â chroesi’r rheilffordd (llwybr Cwellyn yw hwnnw) a pheidiwch â dringo’n uwch (sy’n mynd â chi tuag at y llwybr i Grib Goch). Pan fyddwch chi’n fodlon ac ar eich ffordd i lawr y llwybr llydan i Lanberis, bydd yn cymryd tua 2.5 awr i gyrraedd y pentref– mwy os ydych chi’n cymryd mwy o seibiannau neu angen mynd yn araf i lawr y rhannau mwy creigiog/mwy serth.