Climb Snowdon logo

Llwybrau i'r Copa

Llwybr Pyg

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Pyg

Mae Llwybr Pyg yn llwybr poblogaidd, a bydd yn cynnal eich diddordeb ar ei hyd oherwydd ei natur garw a’i olygfeydd mynyddig godidog yr holl ffordd i’r copa. Un fantais o gychwyn ar y pwynt hwn yw eich bod eisoes 359m uwch lefel y môr.

  • Pellter: 7 milltir / 11km
  • Esgyniad: 723m
  • Amser: 6 awr
  • Man cychwyn: Maes parcio Pen y Pass
  • Cyf Grid: SH 647 577
  • Maps:
    • Arolwg Ordnans: OL17 / 114
    • Harvey Maps: Gogledd Eryri

Edrychwch i fyny i gyfeiriad y de-orllewin o’r maes parcio ac fe welwch chi gopa mawreddog. Nid yr Wyddfa yw hwn, ond Crib Goch, un o'r cribau cul sy'n arwain at y copa.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio Ardal y Warden yn yr adeilad carreg, lle mae cyfoeth o wybodaeth a mapiau am yr Wyddfa. Yma, byddwch yn gallu gweld delweddau o’r llwybrau y byddwch yn eu dilyn a’r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld ar y mynydd.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Pyg

Ac yna i ffwrdd â chi - i gornel de-orllewinol y maes parcio i ddod o hyd i fan cychwyn Llwybr Pyg. Mae hwn yn llwybr poblogaidd, a bydd yn cynnal eich diddordeb ar ei hyd oherwydd ei natur garw a’i olygfeydd mynyddig godidog yr holl ffordd i’r copa.

I ddechrau, mae cychwyn Llwybr Pyg yn waith caled, gyda grisiau a chlogfeini mawr, wedi'u peiriannu. Mae’r ffordd hon o adeiladu llwybrau, trwy osod cerrig, yn rhoi arwyneb sy’n para’n dda iawn ar gyfer y 500,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Ond, mae angen sylw a chydbwysedd gofalus ar y cerrig mawr er mwyn peidio â throi ffêr!

Byddwch yn defnyddio llawer o egni yn y 40 munud cyntaf, felly dechreuwch ar gyflymder cyson. Os ewch yn rhy gyflym, byddwch yn chwythu wedi 10 munud o’r rhan serth gyntaf! Er mwyn cymryd eich gwynt, mae golygfeydd hyfryd i lawr dyffryn rhewlifol Bwlch Llanberis, tuag at Lyn Peris a Llyn Padarn. Stopiwch ac edmygwch.

Yna yn ôl at y gwaith, wrth i chi ddringo grisiau mawr (mae angen dwylo ar adegau) tuag at Fwlch y Moch ac rydych chi’n cyrraedd bwlch bach gwyntog (fel arfer), rhwng Crib Goch a’r ‘Cyrn’ ar y chwith i chi.

O’ch blaen mae golygfa fendigedig tuag at Lyn Llydaw (cronfa ddŵr mewn gwirionedd) islaw, gyda chlogwyni tywyll Y Lliwedd ar y gorwel uwch ben, yn ogystal â golygfa o gopa’r Wyddfa os cewch chi ddiwrnod clir. Ydych, rydych chi'n cerdded yr holl ffordd i fyny yno!

Byddwch yn sicr am gael seibiant yma – bwytwch fyrbryd ac yfwch fwy o ddŵr. Byddwch wedi gweithio'n galed am hyd at awr erbyn hyn.

Ar ôl sioc gychwynnol y cychwyn serth, corfforol hwn, mae darn mwy gwastad o’r llwybr i’w ddilyn bellach. Mae’n cyfuchlinio o dan uchdelderau Crib Goch ar y dde i chi.

Os yw’n ddiwrnod braf, heulog efallai y byddwch yn gallu gweld pobl yn symud ar hyd y grib! Byddwch yn gallu parhau ar hyd Llwybr Pyg yn haws nawr, gyda darnau byr o esgyniadau grisiog.

Trwy’r amser rydych chi’n cyfuchlinio (cadw at un lefel) ac yna’n codi’n raddol wrth i chi fynd yn ddyfnach i gymoedd yr Wyddfa.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Pyg

Ar adegau fe fydd yna ddarnau o greigwely i ddringo drostynt ac mae cael llaw rydd yn ddefnyddiol weithiau er mwyn sefydlogi eich hun ar ddarnau o graig. Weithiau mae'r llwybr yn rhydd dan draed oherwydd ei fod wedi ei erydu (gan ddŵr neu gan filoedd o draed).

Byddwch yn ofalus wrth gerdded ar glogfeini mwy neu ddarnau clytiog o graig, yn enwedig os ydynt yn wlyb. Dyma ble bydd esgidiau da, gyda gwadnau garw yn helpu i roi ffrithiant ar greigiau llithrig. Bydd y golygfeydd tuag at gopa’r Wyddfa yn dod yn fwyfwy trawiadol po bellaf y cerddwch, ac efallai y byddwch hyd yn oed yn gallu gweld ffigurau bach iawn yn sefyll ar garnedd y copa ar ddiwrnod clir.

Ar ôl awr arall o ymdrech barhaus a dringo graddol, fe ddowch at gyffordd llwybrau. Dyma ble mae llwybr arall, Llwybr y Mwynwyr, yn ymuno â Llwybr Pyg.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Pyg

O’r pwynt hwn ymlaen, fe sylwch ar newid amlwg ym mha mor serth yw’r llwybr, mae bellach yn mynd yn anoddach i’w ddringo gan eich bod wedi bod yn cerdded ers tua 2 awr erbyn hyn, ac mae'r llwybr yn mynd yn fwy creigiog a serth drwy'r amser.

Ond, mae hyn hefyd yn golygu eich bod chi’n dod yn nes at eich nod ac, mewn tywydd clir, does dim amheuaeth ble mae copa’r Wyddfa: gan ei fod yn codi uwch eich pen.

I gerddwyr, ‘tir neb’ yw’r clogwyni sy’n disgyn o’r copa, ond efallai y gwelwch chi gigfrain yn cylchu uwchben neu ambell ddafad yn glynu wrth laswellt a chraig serth, yn chwilio am lystyfiant i fwydo arno.

Clogwyn y Garnedd yw’r enw ar y fan hon ac mae dringwyr yn tyrru yma yn y gaeaf, pan mae’r ceunentydd yn llenwi ag eira a rhew ac yn haws i’w dringo. Oddi tanoch mae llyn bach, sef Glaslyn. Dwfn iawn, oer iawn a glas iawn.

O’r ‘Gyffordd Llwybrau’, mae gennych awr arall o gerdded – a dyma fydd un o rannau caletaf y ddringfa.

Bydd pobl wedi gweithio'n galed hyd at y pwynt hwn, ond mae'r rhan fwyaf serth eto i ddod. Mae'r llwybr yn mynd yn aneglur ar adegau uwchlaw'r pwynt hwn, yn enwedig mewn cymylau isel. Mae’n bwysig iawn cadw llygad ar eich arweinwyr a’ch cymdeithion grŵp – gan fod angen ychydig o sgramblo hawdd mewn rhai rhannau byr.

Efallai y bydd yn rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio ffyn cerdded er mwyn i chi allu defnyddio'ch dwylo i’ch helpu i gadw'ch hun yn sefydlog ar y creigiau. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol bob amser o ble rydych chi'n rhoi eich ffyn, fel nad ydych yn taro'r person y tu ôl i chi yn ei wyneb - perygl anarferol ond gwirioneddol i'w gadw mewn cof!

Fe welwch gymysgedd o greigiau ar y llwybr o'ch blaen: clogfeini mawr, rhydd , cerrig gosod a rhannau miniog sy’n mynnu peth cydbwysedd da. Yn y lleoliad hwn byddwch yn bendant yn teimlo eich bod mewn tir mynyddig go iawn, gyda llawer o dir serth, clogfeini, creigiau a chlogwyni yn eich amgylchynu uwchben.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Pyg

Ond, rydych chi ar lwybr poblogaidd gaiff ei ddefnyddio’n aml - mae’n lle cyffrous iawn i fod. Mae llawer o bobl yn stopio am egwyl yn y ‘gornel’ olaf cyn cwpl o ddarnau igam-ogam i grib y copa.

Mae basgedi cerrig yma, a thro amlwg yn y llwybr, i’r dde. Fe welwch bobl yn bwyta ac yn yfed dŵr yma, ac mae'n syniad da iawn gwneud hynny cyn y ddringfa olaf o 10 munud i’r grib. Pan fyddwch yn gweld llinell y grib uwch eich pen (mae’n weladwy mewn tywydd clir yn unig!) yna mae’n 15 munud arall o gerdded i’r copa ei hun.

Mewn tywydd gwlyb neu oer, mae hefyd yn syniad da gwisgo haen ychwanegol/het/menig ac ati ar y pwynt yma, yn enwedig gan y gall fod yn llawer mwy gwyntog ar grib tua’r copa. Daliwch ati, gydag ychydig o gamau i fyny darnau mawr creigiog o gerrig gosod.

Bydd llawer o bobl yn teimlo'r ymdrech o fod wedi cerdded mor bell â hyn nawr, ond mae'r serthrwydd yn lleihau pan fyddwch chi'n cyrraedd y grib i’r copa, sef Bwlch Glas. Rhowch sylw manwl i'r llethrau serth sy'n disgyn i'r chwith ohonoch wrth i chi ddod yn nes at y grib i’r copa.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Pyg

Mae’r llwybr yn llydan yma, felly does dim peryg o ‘syrthio oddi arno’, ond awgrymir cadw at ‘ochr mynydd’ y llwybr pan allwch chi. Ar ôl tua 3 awr o gerdded byddwch nawr yn cyrraedd arwyddbost carreg sy’n nodi pen Llwybr Pyg. Rydych chi wedi cyrraedd prif grib yr Wyddfa, ac fe welwch y trac rheilffordd ychydig oddi tanoch.

Yma byddwch yn troi i'r chwith ar gyfer esgyniad olaf, llai serth, i'r copa. Ar ddiwrnod clir, fe fydd golygfeydd godidog i’r de, tuag at Borthmadog, a’r gogledd orllewin i gyfeiriad Caernarfon, Môr Iwerddon ac Ynys Môn.

Edrychwch i'r dwyrain (y tu ôl i chi) ac fe welwch o ble rydych chi wedi dod, ar hyd Llwybr Pyg, a hefyd grib miniog iawn Crib Goch. O’r fan hon, bydd taith o 15 munud (uchafswm) yn dod â chi at risiau copa’r Wyddfa, sy’n eich arwain i fyny at garnedd y copa.

Ar ddiwrnod prysur, weithiau mae angen ciwio yma i ddringo'r grisiau serth i'r copa ei hun.

Ond mae’n rheidrwydd, felly mynnwch y cyfle i ymweld â chopa mynydd uchaf Cymru (sy’n uwch nag unrhyw fynydd yn Lloegr hefyd!) Gwnewch yn siŵr bod gennych haenau ychwanegol i’w gwisgo mewn tywydd oerach/mwy gwyntog/gwlypach a chymerwch mwy o fwyd a dŵr. Dim ond hanner ffordd ydych chi a bydd angen egni arnoch chi ar gyfer y disgyniad hefyd!

I fynd i lawr yr un ffordd, byddwch yn dilyn eich camau yn ôl i Fwlch Glas, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich cyfeiriad gan y gall Bwlch Glas fod yn lle dryslyd ar ddiwrnod prysur neu mewn tywydd gwael gan fod llawer o lwybrau’n cydgyfarfod yn y fan hon. Ym Mwlch Glas mae carreg uchel gyda ‘Llwybr Pyg’ arni ac mae’n sefyll lle mae’r darn igam-ogam, serth, olaf yn uno â’r ardal llwyfandir gwastad.