Climb Snowdon logo

Llwybrau i'r Copa

Llwybr Rhyd-ddu

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Rhyd-ddu

Dyma’r tawelaf o’r chwe phrif lwybr i’r copa. Mae’n cynnig golygfeydd mynyddig trawiadol, yn enwedig i gyfeiriad Moel Hebog a bryniau Nantlle i’r de, mae Llwybr Rhyd-ddu yn dilyn llwybr sy’n dringo’n raddol o’r dyffryn, i grib gulach tua'r copa.

  • Pellter: 8.5 milltir / 13.5km
  • Esgyniad: 895m
  • Amser: 6 awr
  • Man cychwyn: Maes parcio Rhyd-ddu
  • Cyf Grid: SH 571 526
  • Maps:
    • Arolwg Ordnans: OL17 / 114
    • Harvey Maps: Gogledd Eryri

Y lle hawsaf i barcio yw ym maes parcio mawr dynodedig Parc Cenedlaethol Eryri ym mhentref Rhyd-ddu (codir tâl dyddiol). Bydd hyn yn eich cadw oddi ar y ffordd brysur ac yn osgoi creu tagfeydd traffig.

Pan fyddwch wedi parcio, gyda'ch cefn at y ffordd fawr, cerddwch i'r chwith a mynd heibio'r toiledau cyhoeddus a pharhau i ben pellaf y maes parcio. Fe welwch giât fawr ar y dde i chi, sy’n mynd â chi dros y rheilffordd – cofiwch gau’r giatiau. Rydych chi nawr ar lwybr Rhyd-ddu.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Rhyd-ddu

Dilynwch y llwybr llydan o'ch blaen. O ardal yr orsaf, fe welwch olygfa wych o lethrau tawelach yr Wyddfa ac, ar ddiwrnod clir, fe welwch y ganolfan ymwelwyr a gorsaf uchaf Rheilffordd yr Wyddfa yn uchel ar y copa.

Fe ddowch at fforch yn y llwybr, cadwch i’r dde ac ewch o amgylch rhwystr cerbydau – bydd hyn yn eich cadw ar lwybr Rhyd-ddu, yn hytrach na lôn fferm breifat i’r chwith. Cyn bo hir, byddwch yn mynd heibio i weddillion chwarel lechi’r Ffridd a oedd yn gweithio tan y 1860au a byddwch eisoes wedi mynd heibio i weddillion tŵr pwerdy’r chwarel ar y chwith.

Mae yna wastad rywbeth diddorol i’w nodi wrth gerdded trwy hen ardaloedd chwareli a mwyngloddio Eryri. Adeiladwyd pentref Rhyd-ddu (lle mae’r llwybr hwn yn cychwyn) fel llawer o drefi a phentrefi eraill yr ardal, i gartrefu’r chwarelwyr a’u teuluoedd.

Rydych ar eich ffordd i gyffordd llwybrau mawr ym Mhen-y-Lôn, lle bydd llwybr Rhyd-ddu yn mynd i’r chwith, i gyfeiriad y gogledd-orllewin i fyny tuag at y grib ar y chwith i chi. Mae piler carreg yma i gadarnhau'r cyfeiriad.

Byddwch yn canfod eich bod ar dir mwy corsiog gyda llawer iawn o frwyn - gall yr ardal hon fod yn wlyb ar ôl llawer o law! Fodd bynnag, mae yna rai darnau da o lwybr i'ch cadw rhag y gwaethaf ohono.

Ar uchder o tua 440m o uchder byddwch yn cyrraedd wal gerrig ac mae hwn yn llecyn gwych i droi o gwmpas ac edrych y tu ôl i chi, ar yr olygfa o’r mynyddoedd ar ochr arall y dyffryn: Moel Hebog, Moel yr Ogof, Moel Lefn, Mynydd Drws y Coed a'r Garn.

Wrth edrych i’r de-ddwyrain fe welwch gopa hynod Yr Aran, sef safle damwain hofrennydd yr Awyrlu Brenhinol ym mis Awst 2016.

Chafodd neb ei anafu gan fod yr holl griw wedi gallu dianc o’r awyren, gafodd ei tharo wrth iddi lanio mewn argyfwng ar y copa.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Rhyd-ddu

Cafodd gweddillion y ddamwain eu cludo oddi ar y mynydd wythnos yn ddiweddarach mewn awyren i faes awyr Caernarfon gerllaw.

Nawr eich bod wedi cael gorffwys wrth y wal hon, mae yna dir mwy garw a mwy serth i'w esgyn, a wal arall i'w chroesi, ond rydych yn nes o lawer at grib Llechog nawr lle bydd y llwybr yn gwastatáu eto... am ychydig.

Gwnewch y mwyaf o'r ardal fwy gwastad ar grib Llechog, tua 750m o uchder. Os yw’r tywydd yn glir, mae hwn yn lle hyfryd i edrych ar Fwlch Main (lle byddwch yn parhau â’ch taith) a chopa’r Wyddfa ei hun ohoni. Mae’n syniad da cymryd egwyl arall yma cyn codiad serth eto tuag at grib ddeheuol yr Wyddfa, sef Bwlch Main.

Byddwch yn mynd trwy giât mewn wal gerrig ac wrth gerdded ar hyd crib Llechog gallwch weld i lawr i Gwm Clogwyn ar y chwith, gyda’i dri llyn bychan – Llyn Glas, Llyn Coch a Llyn Nadroedd.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Rhyd-ddu

Mae ochr yr Wyddfa rydych chi arni nawr yn agored iawn i’r elfennau, yn enwedig yn y gaeaf, felly mae’r tir creigiog wedi’i chwalu gan rew, wrth i ddŵr ar y creigiau rewi ac ehangu ac yna ymdoddi eto – gan achosi llawer o rewi a dadmer yn y creigiau.

Oherwydd yr amgylchedd eithafol a thymheredd cymharol isel, ni all llawer o lystyfiant oroesi yma – ac mae rhywogaethau sydd wedi goroesi yma yn tyfu’n isel ac yn fach: fel llus a rhedynen bersli. Yn y gaeaf, gall yr ardal hon fod wedi ei gorchuddio'r â haenen lefn o eira, gyda llethrau serth oddi tanoch - nid y lle i lithro.

Pan fo eira a rhew ar y ddaear mae'r rhan olaf hon, tuag at Fwlch Main, yn dasg ddifrifol a dim ond cerddwyr profiadol gyda’r offer priodol ddylai roi cynnig arni. Ar ôl dringo'r rhan serth hon, fe welwch lwybr y grib ddeheuol yn ymuno o'r dde. Mae'r llwybr hwn wedi esgyn o Fwlch Cwm Llan, drwy Allt Maenderyn.

Mae’r fan hon, lle mae’r ddau lwybr yn cyfarfod, yn nodi man cychwyn Bwlch Main. Mae’n grib gweddol gul, gyda llethrau serth ar y ddwy ochr, ond mae llwybr da yr holl ffordd ar ei hyd. Nid yw'r grib mor gul nac mor agored â Chrib Goch, er enghraifft, ond mae dal angen cymryd llawer o ofal wrth gamu dros risiau creigiog a cherrig rhydd.

Nid yw hon yn rhan i'w chwblhau mewn tywydd gwyntog neu wlyb iawn. Byddech naill ai'n dewis llwybr arall neu'n troi'n ôl yn y fan hon... neu ddim ar y mynydd o gwbl pe bai mor ddrwg â hynny!

Mae lle rydych chi'n cwrdd â phen deheuol y grib, ychydig yn lletach na'r canol, fel y mae ein lluniau'n dangos. Gyda thywydd clir, fe welwch olygfeydd godidog tuag at Y Lliwedd ar y dde i chi, a Llwybr Watkin yn esgyn o Gwm Tregalan oddi tanoch.

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Rhyd-ddu

Ar ochr arall y grib, fe fyddwch chi’n edrych dros Gwm Clogwyn a’i dri llyn. O'ch blaen chi, mae’r grib yn parhau ac mae'n dechrau lledu eto, ar uchder oddeutu 950m. Byddwch ar lwybr creigiog, amlwg ac yn fuan byddwch yn sylwi ar biler carreg, mawr yn nodi lle mae Llwybr Watkin hefyd yn cwrdd â’r grib, ar y dde i chi.

O'r fan hon, mae'r llwybr yn parhau i ddringo ac mae'n teimlo fel na fydd y copa byth yn ymddangos, ond wrth i chi esgyn drwy'r clogfeini a dilyn y llwybr creigiog, bydd ffenestri adeilad y copa yn ymddangos yn sydyn... rydych chi nawr ar gopa'r Wyddfa !

Taith Yr Wyddfa - Llwybr Rhyd-ddu

Ar ddiwrnod clir, fe fydd golygfeydd godidog i’r de, tuag at Borthmadog, a’r gogledd-orllewin i gyfeiriad Caernarfon, Môr Iwerddon ac Ynys Môn.

Ar ddiwrnod prysur, weithiau mae angen ciwio yma i ddringo'r grisiau serth i'r copa ei hun. Ond mae’n rheidrwydd, felly mynnwch y cyfle i ymweld â chopa mynydd uchaf Cymru (sy’n uwch nag unrhyw fynydd yn Lloegr hefyd!)

Gwnewch yn siŵr bod gennych haenau ychwanegol i’w gwisgo mewn tywydd oerach/mwy gwyntog/gwlypach a chymerwch mwy o fwyd a dŵr.

Dim ond hanner ffordd ydych chi a bydd angen egni arnoch chi ar gyfer y disgyniad hefyd! Os ydych chi'n mynd i lawr union yr un ffordd, ar hyd llwybr Rhyd-ddu, yna cofiwch gadw i'r dde pan fyddwch chi'n cyrraedd pen draw’r darn cul o’r grib, sef Bwlch Main.

Bydd cadw i'r dde yn mynd â chi’n ôl ar hyd crib lefn Llechog, uwchben Cwm Clogwyn, a thrwy'r waliau cerrig a'r giatiau y daethoch drwyddynt ar eich esgyniad o Ryd-ddu.