Hafan » Am Yr Wyddfa » Llwybrau i'r Copa » Llwybr Watkin
Llwybrau i'r Copa
Llwybr Watkin
Yn un o'r llwybrau gwreiddiol i'r copa, Llwybr Watkin sydd â'r cynnydd mwyaf mewn uchder. Taith llawn golygfeydd, ar lwybr da, trwy hen chwareli a gweithfeydd mwyngloddio. Mae’n llawer mwy serth wrth ennill uchder ac mae’r esgyniad olaf ar lethrau de-ddwyrain yr Wyddfa yn serth ac yn rhydd mewn mannau.
- Pellter: 8 milltir / 13km
- Esgyniad: 1015m
- Amser: 7 awr
- Man cychwyn: Maes parcio Pont Bethania
- Cyf grid: SH 627 507
- Maps:
- Arolwg Ordnans: OL17 / 114
- Harvey Maps: Gogledd Eryri
Parciwch ym maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhont Bethania. Mae toiledau cyhoeddus a pheiriannau talu ac arddangos yma. Mae’n bosibl y gwelwch arwyddion ar gyfer Caffi Gwynant, mewn capel wedi’i drawsnewid yr ochr arall i’r ffordd. Lle ardderchog ar gyfer te a chacen (neu fwy!) ar ôl i chi ddychwelyd.
I gyrraedd man cychwyn y llwybr, dilynwch y ffordd fawr i’r chwith o’r maes parcio, dros y bont a chroeswch y ffordd. I’r chwith o’r fynedfa i fferm a gwersyllfa’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Hafod y Llan, fe welwch biler carreg ‘Llwybr Watkin’ a grisiau cerrig yn arwain i mewn i’r coed.
Mae’r coedydd hyn yn enghraifft hyfryd o goetir derw brodorol, rhan o ardal goediog fwy sy’n ymestyn i lawr i Borthmadog. Fe welwch chi glychau’r gog a suran y coed, ymhlith blodau eraill, yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn.
Dilynwch lwybr da rownd ac i fyny at siâp ‘powlen’ bendant a sylwch ar y nodwedd greigiog gyda’r enw addas, ‘Castell’, sydd bellach y tu ôl i chi. Mae’n rhaid bod hwn wedi bod yn fan gwylio da iawn i farchogion y Brenin Arthur!
Edrychwch tuag at orwel y mynydd a byddwch yn sylwi ar hollt mawr yn y llethr serth ar y chwith i chi, sef Clogwyn Brith.
Torrwyd y bwlch hwn i’r graig er mwyn adeiladu tramffordd, i gludo wagenni llawn llechi o chwarel lechi De’r Wyddfa i lawr i Bont Bethania, ac yna fe’u cludwyd mewn cert i Borthmadog, ac yna allan i’r môr. Byddwch yn croesi’r hen dramffordd ar eich ffordd i fyny at y ‘giât mynydd’ olaf sy’n dynodi eich bod ar dir mynediad agored.
Rydych chi ar lwybr wedi’i wneud yn dda nawr, gyda chreigiau mawr wedi’u gosod yn y llethr ac ni allwch beidio â sylwi ar y rhaeadrau gwych ar y dde i chi. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld y rhaeadrau ychydig yn agosach, mae llwybr cul sy’n disgyn o’r giât.
Mae hwn yn mynd â chi i lawr at bont lechi, gan groesi'r nant. Lle poblogaidd i gael picnic ar ddiwrnodau poeth, hafaidd (ewch ag unrhyw sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda).
Byddwch yn croesawu’r pwynt lle mae’n gwastatáu, yn union ar ymyl y rhaeadrau trawiadol. Mae cyffordd llwybrau yma, lle mae llwybr llai yn gadael Llwybr Watkin i esgyn i gyfeiriad Bwlch Cwm Llan a’r Aran. Bydd y llwybr llydan rydych chi ei eisiau yn mynd ymlaen, ymhellach i Gwm Llan.
Efallai y byddwch hefyd yn sylwi ar gored mewnlif dŵr sy’n rhan o gynllun trydan dŵr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yma yn yr afon. Pan fo’r afon yn llifo’n dda, defnyddir canran o’r gyfradd llif ‘uwch na’r cyfartaledd’ i yrru tyrbinau yn y dyffryn, gan greu’r ynni cyfatebol ar gyfer tua 445 o gartrefi bob blwyddyn.
Yn ogystal â’r ychwanegiad mwy diweddar hwn i’r dirwedd yma, bydd eich taith ar hyd Llwybr Watkin hefyd yn mynd â chi heibio hen adeiladau mwynglawdd copr Hafod y Llan. Mae’r mwyngloddiau copr eu hunain i fyny ar lethrau’r Lliwedd ar y dde i chi.
Byddwch yn mynd heibio corlannau defaid a wnaed o ffensys llechi traddodiadol ar y dde i chi, ac yna adfeilion Plas Cwm Llan – a arferai fod yn gartref i reolwr chwarel lechi de’r Wyddfa. Yn ystod yr ail ryfel byd, defnyddiodd milwyr yr adeilad hwn fel targed ar gyfer hyfforddiant saethu gynnau.
Tyllau bwledi yw'r tyllau y gallwch eu gweld yn waliau'r tŷ. Pwy fyddai wedi meddwl y byddech chi'n gweld cymaint o enghreifftiau o ddefnydd hanesyddol o'r ardal hon, wrth gerdded ar y llwybr hwn! Mae’r tir yn wastad iawn erbyn hyn ac mae’r rhan hon o’r daith, trwy dir pori defaid a gwartheg, yn bleserus.
Pum munud arall, a byddwch yn mynd heibio i graig sy’n brigo, Craig Gladstone, gyda phlac carreg yn coffau agoriad y llwybr i’r copa.
Llwybr Watkin oedd y ‘llwybr dynodedig’ cyntaf i’r copa a adeiladwyd gyda’r unig fwriad o alluogi ‘twristiaid’ i gerdded i’r copa.
Cafodd ei agor yn 1892 roedd y dyrfa a oedd yn sefyll o amgylch y prif weinidog ar y pryd, William Gladstone, yn un fawr. Gallwch ddychmygu bod hwn yn lle da i’w hannerch.
Wrth i chi gyrraedd pen Cwm Llan, fe sylwch ar lethrau serth Yr Aran ar y chwith i chi a chrib ddeheuol yr Wyddfa yn ymddangos uwchben. Yn y man cysgodol hwn saif gweddillion barics chwarel lechi de’r Wyddfa.
Dyma ble mae Llwybr Watkin yn dechrau esgyn eto, yn eithaf serth, i ffwrdd o’r barics a thuag at Fwlch Ciliau. Gydol yr amser, mae pant Cwm Tregalan ar y chwith i chi ac yn codi i'r dde ohonoch mae llethrau sy'n arwain i fyny at Y Lliwedd.
Wrth gymryd ychydig o seibiant, ar y rhan fwy serth hon, trowch o gwmpas i weld golygfeydd bendigedig yn ôl at gopa lluniaidd yr Aran a thuag at Aberglaslyn a Phorthmadog y tu hwnt. Fe sylwch fod y llwybr yn mynd yn fwy creigiog nawr, ac yn serth ar brydiau, wrth iddo igam-ogamu ei ffordd i’r grib.
Mae bob amser yn bleser arbennig cyrraedd y grib hon, Bwlch Ciliau, mewn tywydd braf, gan ddod i werthfawrogi 'ochr arall' yr Wyddfa a’r golygfeydd i lawr at lynnoedd, Glaslyn a Llyn Llydaw, yn ogystal â draw at Grib Goch a Charnedd Ugain.
Pe baech yn troi i’r dde yma, byddech yn dringo’r Lliwedd, sef y copa olaf ar lwybr pedol yr Wyddfa. Dilynwch Lwybr Watkin i'r chwith. Mae’r llwybr yn gwau i mewn ac allan o greigiau garw a gallwch fanteisio ar nifer o gyfleoedd i grwydro ar hyd y rhain i dynnu lluniau trawiadol.
Serch hynny, gwyliwch rhag y cwymp o 600m o dan yr ymyl hon i lawr i Lyn Llydaw. Mae yna ardal laswelltog hyfryd, ychydig cyn y rhan serth olaf i grib y copa. Cymerwch eiliad i eistedd yma, cael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed er mwyn rhoi ychydig o egni i chi ar gyfer yr ymdrech olaf i’r copa!
Enw’r ardal hon yw Bwlch y Saethau. Yn ôl y chwedl, yma bu’r Brenin Arthur yn ymladd â’i fab bradwrus ei hun, Medrawd, a chafodd ei daro gan saethau byddin Medrawd. Aethpwyd â’r Brenin Arthur, a oedd yn marw, i lawr i Lyn Llydaw islaw, a daeth ei fyddin o hyd i ogof o dan Y Lliwedd i aros ynddi, nes y byddai'r Brenin Arthur yn atgyfodi eto i frwydro. Ydyn nhw dal yno?
Gan adael Bwlch y Saethau nawr, byddwch yn mynd heibio piler carreg ‘Llwybr Watkin’ ac yn cyrraedd rhan anoddaf Llwybr Watkin. Mae'n serth mewn mannau, a rhaid bod yn ofalus gan ei fod yn rhydd iawn dan draed a achosir gan erydiad y llwybr presennol mewn mannau. Mae'r llwybr yn gwau i mewn ac allan o frigiadau creigiog ond nid yw'n anodd yn unman.
Os yw’r ffordd yn mynd yn rhy serth a chreigiog, efallai eich bod wedi crwydro’n rhy bell i’r dde felly daliwch i fynd i’r chwith o amgylch y rhwystrau hyn ac mae llwybr yn gwyro’n groeslinol i fyny at grib ddeheuol yr Wyddfa uwch eich pen.
Mewn amodau gaeafol, mae angen gofal eithafol a chyfarpar priodol yn y rhan hon.
Yn ddiweddar, nododd y BMC (Cyngor Mynydda Prydain), yn ei ymgyrch cadwraeth Trwsio ein Mynyddoedd, fod angen cymorth ariannol ar gyfer gwella’r rhan hon o’r llwybr.
Camau bach, diogel ac yn fuan fe ddowch at faen hir sy’n nodi’r fan lle mae Llwybr Watkin yn ymuno â Llwybr Rhyd Ddu. O'r fan hon, mae'r llwybr yn parhau i ddringo ac mae'n teimlo na fydd y copa byth yn ymddangos, ond wrth i chi esgyn drwy'r clogfeini a dilyn y llwybr creigiog, fe fydd ffenestri adeilad y copa yn ymddangos yn sydyn... rydych chi bron â chyrraedd y copa’r Wyddfa!
Ar ddiwrnod clir, fe fydd golygfeydd godidog i’r de, tuag at Borthmadog, a’r gogledd-orllewin i gyfeiriad Caernarfon, Môr Iwerddon ac Ynys Môn.
Ar ddiwrnod prysur, weithiau mae angen ciwio yma i ddringo'r grisiau serth i'r copa ei hun. Ond mae’n rheidrwydd, felly mynnwch y cyfle i ymweld â chopa mynydd uchaf Cymru (sy’n uwch nag unrhyw fynydd yn Lloegr hefyd!)
Gwnewch yn siŵr bod gennych haenau ychwanegol i’w gwisgo mewn tywydd oerach/mwy gwyntog/gwlypach a chymerwch mwy o fwyd a dŵr.
Dim ond hanner ffordd ydych chi a bydd angen egni arnoch chi ar gyfer y disgyniad hefyd!
Ar y ffordd i lawr, mae'n bwysig cofio nad yw Llwybr Watkin yn disgyn yn syth o'r copa...
Mae’n cychwyn o’r maen hir sydd tua 200 metr i lawr Llwybr Rhyd Ddu, sef y piler carreg a welsoch â hi ar eich ffordd i fyny.
Mae gennych opsiwn i ddilyn Bwlch Main a’r grib ddeheuol yr holl ffordd i Fwlch Cwm Llan os nad ydych am fynd i lawr y rhan serth ar ran uchaf Llwybr Watkin. Gwiriwch fap i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa grib y byddwch yn ei dilyn, ac i wneud yn siŵr nad ydych yn dilyn llwybr Rhyd Ddu mewn camgymeriad.
Cadwch at linell y grib bob amser, gyda Chwm Tregalan ar y chwith i chi, a disgynnwch yn ôl i Gwm Llan trwy'r man isaf cyn esgyn yn ôl am yr Aran.