Climb Snowdon logo

Llwybrau i'r Copa

Llwybr y Mwynwyr

Taith Yr Wyddfa - LLwybr y Mwynwyr

Mae Llwybr y Mwynwyr yn ddelfrydol os ydych yn dymuno mynd am dro ar yr Wyddfa heb fynd yr holl ffordd i’r copa. Mae’r llwybr yn cychwyn yn llydan ac yn wastad, gan ddringo’n raddol a datblygu’n ddringfa galed tuag at y gyffordd rhwng Llwybr y Mwynwyr a Llwybr Pyg.

  • Pellter: 8 milltir / 13km
  • Esgyniad: 723m
  • Amser: 6 awr
  • Man cychwyn: Maes parcio Pen-y-Pass
  • Cyf grid: SH 647 577
  • Maps:
    • Arolwg Ordnans: OL17 / 114
    • Harvey Maps: Gogledd Eryri

Un fantais o gychwyn o’r pwynt hwn yw eich bod eisoes 359m uwch lefel y môr. Mae’r llwybr yn cychwyn ar gornel chwith bellaf maes parcio Pen-y-Pass, gyferbyn â’r fynedfa (wrth i chi sefyll gyda’ch cefn at y ffordd). Bellach mae giât fetel newydd ei chomisiynu i’r llwybr, sy’n dangos amlinelliad o grib Y Lliwedd uwchben Llyn Llydaw.

Taith Yr Wyddfa - LLwybr y Mwynwyr

Wrth i chi gerdded ar hyd llwybr onglog, gweddol hawdd, mwynhewch y golygfeydd gwych o Nant Gwynant i lawr i’r chwith o’r llwybr.

Yn fuan, fe welwch Bedol enwog yr Wyddfa: Y Lliwedd (898m), Yr Wyddfa (1,085m), Garnedd Ugain (1,065m) a Chrib Goch (921m).

Bum munud yn ddiweddarach, a byddwch yn mynd heibio i lyn bach ar y chwith, Llyn Teyrn (Pwy oedd y teyrn tybed?!) Chwiliwch am adfeilion hen farics y mwynwyr ger y lan yn serth oddi tanoch.

Mae’r bibell a welwch yn mynd i lawr y dyffryn ar y chwith yn cyflenwi dŵr o Lyn Llydaw i orsaf bŵer trydan dŵr Cwm Dyli yn Nant Gwynant (y cwm ar y chwith i chi). Adeiladwyd yr orsaf bŵer, sef yr orsaf bŵer hynaf ym Mhrydain, yn wreiddiol er mwyn cyflenwi trydan ar gyfer rheilffordd drydan drwy Gwm Gwynant. Y bwriad oedd i’r rheilffordd gysylltu chwareli llechi a mwyngloddiau, ond rhoddwyd y gorau i'r cynllun pan ddaeth yr arian i ben.

Comisiynwyd yr orsaf bŵer flwyddyn yn ddiweddarach ym 1906, ac mae wedi bod yn cyflenwi trydan i’r Grid Cenedlaethol ers hynny, a bellach o bell trwy orsaf fwy yn Nolgarrog gerllaw. Mae’r llwybr yn fforchio ger glan Llyn Llydaw (mae’r ochr chwith yn mynd â chi i fyny i gyfeiriad Y Lliwedd). Cadwch i'r dde ac fe ddowch at sarn sy'n croesi'r llyn.

Cyn adeiladu’r sarn, cludwyd ceffylau a wagenni yn llawn copr o’r mwynglawdd ar draws Llyn Llydaw ar rafftiau, er mwyn byrhau eu taith i lawr i Ben-y-Pass. Fodd bynnag, yn dilyn damwain pan foddwyd ceffyl, yn 1853 penderfynwyd adeiladu sarn.

Er mwyn adeiladu’r sarn bu’n rhaid gostwng lefel y dŵr 12 troedfedd, ac yn ystod y broses honno darganfuwyd canŵ derw cynhanesyddol – prawf fod dyn wedi crwydro’r Wyddfa ers miloedd o flynyddoedd.

Croeswch y sarn a mynd heibio adfeilion melin falu Mwynglawdd Copr Britannia ar y dde i chi, cyn dringo’n serth i Lyn Glaslyn. Yma, rydych chi wedi cerdded dwy filltir.

Roedd yr adeilad mawreddog hwn yn gartref i'r morthwylion malu mawr a ddefnyddiwyd i echdynnu'r mwynau gwerthfawr o'r creigiau cyfagos.

Taith Yr Wyddfa - LLwybr y Mwynwyr

Cludwyd mwyn copr i lawr i'r felin falu gan raff awyr dros Lyn Glaslyn; roedd hyn yn lleihau'r pellter roedd yn rhaid cludo’r copr, ac yn osgoi'r ddringfa serth rhwng y ddau lyn. Y ‘Wifren Wib’ gyntaf ar y mynydd?!

Edrychwch ar yr olygfa ddramatig o'r Wyddfa yn codi bron i 500m uwchben y llyn rhewlifol. Wrth i chi gerdded o amgylch y llyn, byddwch yn mynd heibio adfeilion rhes arall o farics ar y dde i chi, lle’r oedd y mwynwyr yn arfer aros yn ystod yr wythnos. Yma, er eich bod wedi cerdded bron i dri chwarter y llwybr o ran pellter, dim ond hanner ffordd i fyny’r mynydd ydych chi, o ran amser.

O Lyn Glaslyn, trowch i'r dde wrth arwyddbost yn union ar ôl y barics, a dilynwch lwybr da o gerrig gosod, sy'n igam-ogamu i fyny'r llethr. Mae’r rhan hon o’r llwybr yn ddringfa galed. Chwiliwch am fandiau o gwarts dan draed, a all fod yn llithrig pan yn wlyb. O gerdded yn braf a chyson, bydd cerdded y darn serth hwn yn cymryd tua 25 munud.

Taith Yr Wyddfa - LLwybr y Mwynwyr

Daliwch ati, ar risiau cerrig gosod, serth – a byddwch yn cyrraedd maen hir sy’n nodi’r gyffordd â Llwybr Pyg (edrychwch amdano ar y ffordd i lawr, os ydych yn mynd i lawr yr un ffordd).

O’r fan hon mae’r llwybr yn parhau i ddringo’n serth i Fwlch Glas, gan gynnwys ambell le sydd angen dwylo i’ch cadw ar y creigiau. Mae’r rhan hon o’r llwybr yn cael ei hadnabod fel Llwybr y Mul. Cyn adeiladu’r ffordd fawr drwy Fwlch Llanberis, defnyddiwyd y llwybr hwn i gludo copr i fyny i Fwlch Glas ac yna i lawr yr ochr arall i Lyn Cwellyn.

Wrth i chi ddynesu at y rhan igam-ogam, edrychwch islaw i weld y siafftiau mwyngloddio copr agored ar y chwith.

Un darn olaf o igam-ogamu serth a byddwch yn dod allan ar ddarn mwy gwastad o’r grib, sef Bwlch Glas. Mae Bwlch Glas yn lle prysur gan fod dau lwybr arall ymuno yma (llwybrau Cwellyn a Llanberis). Fe welwch draciau rheilffordd yn rhedeg i fyny'r mynydd ar hyd ochr dde'r llwybr.

Dyma Reilffordd yr Wyddfa, sydd wedi bod yn cludo ymwelwyr i’r copa ers 1896 ar yr unig reilffordd rac a phiniwn cyhoeddus yn y DU. Mae trenau'n rhedeg o'r Pasg tan ddiwedd mis Hydref ar ddiwrnodau o dywydd da.

Os yw'r trên yn rhedeg, yna bydd y Ganolfan Ymwelwyr uchaf ar agor. Os nad yw trenau'n rhedeg (tywydd gwael neu y tu allan i'r tymor) yna bydd y ganolfan ar gau.

Mwynhewch y golygfeydd ym Mwlch Glas, yna cadwch i'r chwith o'r maen hir. Rydych chi nawr ar gymal olaf eich taith i fyny'r Wyddfa.

Taith Yr Wyddfa - LLwybr y Mwynwyr

Wrth gerdded yn hamddenol, gallwch ddisgwyl bod ar y copa mewn llai na 15 munud. O'r copa, ar ddiwrnod clir, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd gwych. Weithiau (dim ond weithiau!) gallwch hyd yn oed weld cyn belled ag Iwerddon, Ynys Manaw ac Ardal y Llynnoedd.

I ddod i lawr yr un ffordd byddwch yn dilyn eich camau yn ôl i Fwlch Glas, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich cyfeiriad gan y gall Bwlch Glas fod yn lle dryslyd ar ddiwrnod prysur neu mewn tywydd gwael gan fod llawer o lwybrau’n cydgyfarfod yn y fan hon.

Ym Mwlch Glas mae carreg fawr gyda ‘Llwybr Pyg’ arni ac mae’n sefyll lle mae’r darn igam-ogam serth, olaf yn uno â’r ardal llwyfandir gwastad. Dilynwch hwn i ddechrau, a chofiwch edrych am y maen hir ar gyfer Llwybr y Mwynwyr, ar ôl tua 35 munud o gerdded o Fwlch Glas (cyflymder arferol).